#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Caneuon Adleisio a Galw ac Ateb

Caneuon Adleisio a Galw ac Ateb

Prif Ffocysau: Cynhwysol,
Ffocysau Pellach: Asesiad Cyfoedion, Cyflawniad Bechgyn, Sgiliau Llythrennedd,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Defnyddiwyd yr uned hon gan GCaD Cymru i gynorthwyo gallu y disgyblion i ganu drwy ddefnydd Galw ac Ateb.

Yn gychwynnol, defnyddiwyd y gweithgaredd i gyflwyno'r disgyblion i'r sgil o alw ac ateb, a'u galluogi i ymarfer y sgiliau angenrheidiol hynny.

Fe'u defnyddir wedyn i alluogi'r disgyblion weithio mewn grwpiau ac ymarfer galw ac ateb.

Effaith a Chanlyniad

Mae bechgyn yn ymateb yn dda i'r math hwn o ddysgu – mae'n nhw'n hoff o glywed lleisiau eraill yn canu yn hytrach na llais yr athro yn unig.

Roedd cael y gweithgaredd ar y BGRh yn golygu bod yr athro yn rhydd i symud ymysg y disgyblion a chynnig cymorth i'r sawl oedd angen help.

Roedd pob disgybl yn ymgymryd â'r dasg ac fe gynigodd pob un grwp ffyrdd i eraill wella.

Hyrwyddwyd gwrando gweithredol gan bod angen i'r disgyblion wrando'n astud er mwyn adnabod pryd i ymuno.

Gwersi a Ddysgwyd

Roedd cael y geiriau a'r gerddoriaeth ar gael o fewn yr adnodd rhyngweithiol yn galluogi mwy o hyblygrwydd athro o fewn y wers.