#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Rhannu Cacennau

Rhannu Cacennau

Prif Ffocysau: Sgiliau Rhifedd,
Ffocysau Pellach: Mwy galluog a thalentog, Dysgu Estynedig, Cyflawniad Bechgyn,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Defnyddiwyd yr adnodd hwn ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol i atgyfnerthu rhai cysyniadau sylfaenol am ffracsiynau i’r dosbarth.

Gweithgaredd dan arweiniad athro oedd hwn yn y lle cyntaf, ond o fewn dim o dro roedd y disgyblion yn ddigon hyderus i ddod at y bwrdd gwyn rhyngweithiol i weithio drwy broblemau a awgrymwyd gan eu cyfoedion, gan ragweld y canlyniadau.

Dilynodd brofiad uniongyrchol yn rhannu eitemau amrywiol o offer dosbarth (ciwbiau ac ati) a sicrhaodd fod y disgyblion yn gallu adnabod ffracsiynau penodol yn llwyddiannus. Wedi hynny, aeth y disgyblion ati mewn parau i gyflawni gweithgareddau tebyg, gan ddefnyddio offer a chofnodi eu canlyniadau unwaith eto. Cymerodd pob pâr eu  tro hefyd i greu problemau a’u datrys gan ddefnyddio’r gweithgaredd hwn ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol.

Gwnaeth natur ryngweithiol y gweithgaredd a’r elfen gystadleuol o roi problem i gyfoedion ei datrys difyrru rhai o’r bechgyn yn benodol yn fwy nag y byddai gweithgareddau  traddodiadol wedi’u gwneud.

Mae hefyd wedi arwain at rywfaint o waith ymestynnol ar gyfer y disgyblion mwy galluog a thalentog (gweler yr Effaith a’r Canlyniadau isod)

Effaith a Chanlyniad

Mae’r gweithgaredd yn cyflwyno cynrychiolaeth weledol glir iawn o’r cysyniadau gan ddefnyddio gwrthrychau, sy’n hynod addas ar gyfer disgyblion, yn hytrach na dibynnu ar nodiant yn unig.

Mae’n caniatáu’r rhyddid i’r athro (neu’r disgyblion) ddangos eu dewis ei hun o dasgau. Gallwch ei wneud yn anos neu ei ailadrodd pan ddaw anawsterau i’r amlwg. Mae’n fwy hwylus hefyd na cheisio defnyddio gwrthrychau go iawn i ddangos i’r dosbarth a gall y dosbarth cyfan weld y broses yn glir ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol.

Cyfrannodd bob un o’r uchod at ganlyniad llwyddiannus i’r holl ddisgyblion.

Fel y’i disgrifiwyd uchod, difyrrodd y gweithgaredd hwn, yn yr un modd â’r rhan fwyaf o weithgareddau lle rydym yn rhyngweithio â’r bwrdd gwyn, y bechgyn hynny’n benodol sy’n fwy tawedog yn aml. Dangosodd eu gwaith yn ddiweddarach eu bod wedi deall y cysyniad a’u bod yn gallu ei roi ar waith mewn cyd-destunau eraill.

Gallai’r holl ddisgyblion ddeall nodiant ffracsiynau afreolaidd (rhifiadur mwy na’r enwadur, gan ragori ar darged y wers) gan fod fformat y gweithgaredd yn ei wneud mor glir a syml ei ddeall (mwy o gacennau na phlant). Gallai grwp llai o ddisgyblion barhau i weithio’n llwyddiannus gyda ffracsiynau afreolaidd.

Disgrifiodd rhai disgyblion ddefnyddio’r gweithgaredd gartref gyda’u brodyr a’u chwiorydd wrth chwarae’r ysgol.

Adborth gan y Dysgwr

Gwnaeth rhai o’r disgyblion ei fwynhau ddigon i’w rannu gyda’u rhieni a’u brodyr a’u chwiorydd ar y cyfrifiadur gartref.

Adnoddau Eraill

Byrddau ffracsiynau, ffracsiynau siapiau plastig, ciwbiau.

Gwersi a Ddysgwyd

Adnodd ardderchog, syml ond hyblyg i’w ddefnyddio pan fydd y disgyblion yn barod ar gyfer sgiliau ffracsiynau ar y lefel hon. Roeddwn yn hoffi’r ffordd y gellid ei ddefnyddio i gyflwyno’r ffracsiynau afreolaidd yn gynt na’r disgwyl o bosibl – gan atal disgyblion rhag cael problemau o bosibl pan fyddant yn dod ar draws y rhain yn ddiweddarach.