#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Y Tymhorau

Y Tymhorau


Ffocysau Pellach: Arfer myfyriol, Cynhwysol, DMaAGD, Sgiliau Rhifedd,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Adnodd a ddefnyddiwyd yng nghynllun mathemateg yr ysgol er mwyn rhoi trefn ar ddigwyddiadau mewn amser (y tymhorau) a chymharu data a dosbarthu gwrthrychau yn ôl meini prawf penodol.

Fe wnaeth yr athrawes, Heather Dutfield, barhau â’r gyfres o wersi drwy ganolbwyntio ar Hydref gan mai dyma’r tymor pryd y digwyddodd y wers ac roedd y plant yn gallu gweld y newidiadau yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

Roedd y gweithgaredd cychwynnol yn rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau meddwl a sgiliau cyfathrebu disgyblion. Byddai nifer yn methu â chyfathrebu neu ehangu eu dysgu heb y dehongliad gweledol a ddarperir gan yr adnodd hwn. Roedd yr agwedd ginesthetig ymarferol o fedru symud y lluniau o gwmpas a’u gweld yn helaethu wrth glicio pen ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol yn ysgogi plant yr oed yma. Roedd y cyfleoedd i drafod ymhlith y disgyblion yn enfawr. Roedd y lluniau’n fanwl, ond roedd rhai ychydig yn amwys a rhoddai hyn gyfle i’r disgyblion siarad am yr hyn roedden nhw’n meddwl oedd yn cael ei ddarlunio a sut roedd yn perthnasu i un neu fwy o’r lluniau eraill. Cafodd sgiliau cwestiynu eu datblygu wrth i’r plant geisio egluro eu syniadau. Nid oedd atebion cywir neu anghywir a gallai’r plant ddosbarthu mewn amrywiaeth o ffyrdd.          

Roedd y brif sesiwn (rhan 1) wir yn ennyn diddordeb y plant ac yn caniatáu iddynt arsylwi a thrafod beth oedd ar y sgrin o’u blaen i gychwyn. Nid oeddent yn ymwybodol ar y cychwyn y gallent fynd at y bwrdd gwyn rhyngweithiol a chlicio ar ardaloedd amrywiol o fewn y llun ond pan awgrymodd yr athrawes y gallent roi cynnig ar hyn, sylwyd bod ymwneud pob plentyn â’r gweithgaredd wedi gwella’n sylweddol, yn enwedig un plentyn y denir ei sylw’n hawdd fel rheol. Roedd yn rhaid i’r athrawes ddarllen yr wybodaeth a ddatgelwyd i’r plant, a hwyrach na fyddai’n rhaid gwneud hyn gyda grwp oedran hyn, ac roedd y plant wrth eu bodd pan gafodd eu syniadau cychwynnol eu cadarnhau.

Defnyddiwyd y brif sesiwn (rhan 2) yn dilyn yr ymchwiliad cychwynnol o’r modd roedd yr amodau tywydd a’r amgylchedd wedi newid yn ystod tymhorau gwahanol y flwyddyn. Ystyriwyd bod y gweithgaredd dilladu yn addas iawn ar gyfer plant oed derbyn gan fod modd ei gysylltu’n uniongyrchol â’u bywydau personol. I gychwyn, caniataodd yr athro i’r plant fyfyrio ar y gwahaniaethau rhwng haf a gaeaf ac roedd hyn yn cadarnhau'r hyn roeddent eisoes wedi bod yn ei ymchwilio. Yna, fe gymerodd y plant eu tro i glicio a llusgo eitemau amrywiol o ddillad i’r wardrob haf neu'r wardrob aeaf gywir. Fe ddatblygodd hyn eu sgiliau dosbarthu ynghyd â’u sgiliau cyfathrebu wrth i’r plant gael eu hannog i gyfiawnhau eu rhesymu dros y dewis cyn lleoli eitem ddillad yn y wardrobau. Mae’r adborth yn syth gyda chymeradwyo brwd neu ‘O-o’ os caiff y sain ei alluogi wrth ddefnyddio’r adnodd hwn. Yna agorwyd y gweithgaredd hwn ar y cyfrifiaduron personol yn yr ardal fel darpariaeth estynedig.

Ni ddefnyddiwyd y sesiwn cloi ar gyfer y gweithgaredd hwn gan fod gan yr athrawes ei gweithgareddau ei hun wedi’u cynllunio; fodd bynnag, byddai’r sesiwn cloi yn ardderchog i’w defnyddio gyda phlant ychydig yn hŷn oedd â gwell sgiliau darllen ac ysgrifennu.

Effaith a Chanlyniad

Fe wnaeth y gweithgaredd hwn helpu plant i ddatblygu eu sgiliau canolbwyntio ac arsylwi. Roeddent yn ymwneud yn weithredol â’r wers. Roedd digon o gyfleoedd i ddatblygu cyfathrebu. Anogwyd y plant i feddwl, cwestiynu a siarad ac roeddent yn gallu cysylltu’r hyn roeddent yn ei weld ar y sgrin gyda’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth flaenorol o’r tymhorau. Roedd clicio ar y lluniau yn caniatáu i’r dysgwyr archwilio ymhellach a chydweithio yn eu dysgu, gan rannu syniadau a phrofiadau personol o’r tymhorau. Roedd y disgyblion yn gallu disgrifio’r hyn a ddysgwyd ac arddangos eu dealltwriaeth drwy Gweithgaredd 2. Roedd hyn yn caniatáu iddynt fyfyrio a gwerthuso eu meddwl eu hunain.

Adborth gan y Dysgwr

Roedd y dysgwyr i gyd yn awyddus i ddefnyddio  pen y bwrdd gwyn rhyngweithiol i symud dillad i’r wardrobau cywir. Cawsant eu cyffroi gan yr adborth diymdroi ac roeddent wrth eu bodd yn clywed y cymeradwyo.

Adnoddau Eraill

Dail yr Hydref, concyrs, mes, siart paent yn dangos lliwiau tymhorol, lluniau o anifeiliaid gwahanol sy’n gaeafgysgu.

Gwersi a Ddysgwyd

Cafodd y plant ddealltwriaeth ddyfnach o’r modd mae’r amgylchedd yn newid gyda’r tymhorau.