#
Arfer da > Darganfod adnoddau > “Edifar y dydd"

“Edifar y dydd"

Prif Ffocysau: DMaAGD,
Ffocysau Pellach: Cynhwysol, Sgiliau Sylfaenol, Dysgu wedi’i Bersonoli, Arfer myfyriol,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Cafodd y wers hon am gamddefnyddio sylweddau ei haddysgu i ddosbarth Blwyddyn 10.

Mae’r wers yn dilyn un am alcohol a gafodd y disgyblion ym Mlwyddyn 8.

Dechreuodd PC Mudie y wers drwy gysylltu dysgu’r disgyblion a’u hatgoffa am y wers gynharach honno.

Hon oedd y wers agoriadol a roddwyd gan Swyddog Cyswllt Heddlu Ysgolion Cymru Gyfan, PC Emma Mudie. Mae cynllun gwers lawn i’w weld ar wefan SchoolBeat.org ynghyd â gweithgareddau dilynol i’r athrawon eu cwblhau.

Roedd y gweithgaredd cychwynnol yn cynnwys graddio 10 canlyniad cymryd cyffuriau yn ôl trefn pwysigrwydd. Y rhain oedd – dibyniaeth, iechyd gwael, effeithiau ar y teulu, colli rhyddid, colli ffrindiau, hunan-barch, cofnod troseddol, arian, rhagolygon gyrfaol ac enw da.

Anogodd hyn y disgyblion i drafod y syniadau mewn parau. Yna gofynnwyd iddynt rannu eu dau ganlyniad amlycaf gyda gweddill y dosbarth. Cadwodd PC Muddle gofnod o’u hatebion ar y bwrdd gwyn a gallai’r disgyblion weld y duedd yn eu syniadau. Gadawyd hyn ar y bwrdd i ddychwelyd ato yn ystod y sesiwn lawn.

Yna dywedwyd wrth y disgyblion – fel y gwnaed mewn gwersi blaenorol – fod cyffur yn sylwedd sy’n newid y ffordd y mae’ch meddwl a’ch corff yn gweithio. Gwnaeth ailadrodd yr un gosodiad roi’r cyfle i’r disgybl fyfyrio am wersi cynharach a chysylltu eu meddwl.

Yna trafododd PC Mudie gyffuriau adfywiol, iselyddion a rhithbeiriau gyda’r plant. Anogodd hyn drafodaeth dan arweiniad disgyblion am fadarch a rhoddodd y cyfle i gywiro unrhyw gamsyniadau.

Yna dangosodd PC Mudie sleidiau’n manylu ar bris cyffuriau gwahanol sydd ar gael ar y stryd a’r lefelau purdeb. Trafodwyd perygl cymryd cyffuriau o’r fath (yn enwedig heb wybodaeth glir am yr hyn a allai fod wedi’i gymysgu gyda nhw neu eu cryfder). Amlygwyd hyn gyda chyfres o luniau’n dangos sut y gwnaeth cymryd cyffuriau newid ymddangosiad un sy’n cymryd cyffuriau a’i ‘heneiddio’n’ gyflym.

Yna edrychodd y disgyblion ar gyffuriau a’r gyfraith. Cawsant wybod am gosbau dosbarthiadau gwahanol o gyffuriau am feddu arnynt, eu cyflenwi a’u cynhyrchu. Arweiniodd hyn at fideo am unigolyn ifanc o oedran tebyg a gafodd ei arestio am feddu ar ganabis. Dangosodd y fideo’r sefyllfa a arweiniodd at ei arestio, yr hyn a ddigwyddodd wrth ei arestio ac ymchwiliadau dilynol yr heddlu a chanlyniadau gweithredoedd y bachgen. Gallai’r disgyblion uniaethu â’r bobl ifanc yn y fideo a gwnaeth cwestiynau PC Mudie am sut mae pobl hyn yn aml yn stereoteipio pobl ifanc yn eu harddegau annog mwy o empathi.

Gwnaeth y sesiwn lawn gysylltu’r fideo â’r gweithgaredd graddio cychwynnol a thrafodaeth am ba ganlyniadau yn y gweithgaredd hwnnw a brofodd y bachgen a gafodd ei arestio.

Effaith a Chanlyniad

Mae gan y wers gysylltiadau amlwg â Fframwaith ABCh ar gyfer 2008 ac mae’n mabwysiadu ystod o arddulliau addysgu i annog sgiliau datblygu meddwl a chyfathrebu. Mae’r wers yn wahaniaethol ac yn gynhwysol. Erbyn diwedd y wers, roedd y disgyblion yn gallu deall y broses gyfreithiol a chanlyniadau gweithredoedd y bachgen yn y fideo o ran camddefnyddio sylweddau. Roeddent yn gallu deall bod goblygiadau i’r penderfyniadau maent yn eu gwneud. Gwnaethant ddangos dealltwriaeth o’r fath yn ystod y sesiwn lawn. Yn y lle cyntaf, roedd y disgyblion o’r farn mai prif effeithiau cymryd cyffuriau fydd dibyniaeth, iechyd gwael ac effeithiau ar y teulu ond ar ôl y fideo, roeddent yn gallu deall y goblygiadau ehangach. Roedd y gweithgaredd graddio’n gyfle da i feddwl, para a rhannu syniadau.

Adborth gan y Dysgwr

Roedd disgyblion yn teimlo’n hyderus yn y wers ac roeddent yn gallu gofyn cwestiynau i PC Mudie ar adegau perthnasol er mwyn gwella eu dealltwriaeth am faterion penodol. Mae’n amlwg bod PC Mudie wedi datblygu cydberthynas dda â’r disgyblion ac mae wedi dwysau eu dealltwriaeth o’r pwnc drwy wersi o’r Cyfnod Sylfaen ymlaen.

Adnoddau Eraill

Mae rhagor o gynlluniau gwersi dilynol pellach i’w gweld ar www.SchoolBeat.org ynghyd ag ystod o adnoddau i’w hargraffu.

Gwersi a Ddysgwyd

Mae’r disgyblion yn uniaethu’n agos â’u cyfoedion. Wrth wylio fideo, caiff yr effaith fwyaf ei hennill o ddefnyddio actorion o oedran a chefndir cymdeithasol tebyg. Cafodd y fideo hwn ei ffilmio yn yr ardal leol, ac felly byddai rhai o’r golygfeydd wedi bod yn gyfarwydd i’r disgyblion hefyd.