#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Trosolwg o Ddeunyddiau a’u Priodweddau (CRIPSAT)

Trosolwg o Ddeunyddiau a’u Priodweddau (CRIPSAT)

Prif Ffocysau: DMaAGD,
Ffocysau Pellach: Sgiliau Llythrennedd, Cwricwlwm Cymreig , Asesiad Cyfoedion,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Uned sy’n annog y dysgwyr i ystyried eu syniadau a’u dealltwriaeth eu hunain o briodweddau deunyddiau, gan ddefnyddio fideo, animeiddiadau a strategaethau holi.

Anogwyd dysgwyr i feddwl yn feirniadol, myfyrio ar eu syniadau eu hunain a gwrando ar syniadau dysgwyr eraill yn y dosbarth. Cafwyd cyfleoedd i ddysgu ar y cyd yn ogystal â myfyrio annibynnol ar Ddeunyddiau a’u Priodweddau.

Anogwyd disgyblion i ddatblygu eu syniadau gan ddefnyddio’r offer ar-lein sydd ar gael o fewn yr adnodd ac fe wnaethant weithio gyda’u partneriaid i ddatblygu eu sgiliau meddwl trwy gydol y gweithgaredd.

Cafodd y dysgwyr eu cyflwyno i ystod eang o eirfa ynglyn â’r testun ac fe gawsant eu hannog gan y cwestiynau a ymgorfforwyd o fewn yr adnoddau fel y bo’n briodol.

Effaith a Chanlyniad

  • Llwyddodd yr athro i ennyn diddordeb y disgyblion trwy ofyn cwestiynau iddynt, yn enwedig y cwestiynau procio o fewn yr adnodd.
  • Roedd y disgyblion yn awyddus i ddefnyddio’r adnodd a gwelsant y cynllun yn fuddiol i allu gwneud nodiadau am eu syniadau.  
  • Mae ymagwedd cam wrth gam yr adnodd yn cynorthwyo’r athro i arwain y disgyblion a gall yr athro ddewis defnyddio pob un o’r adnoddau, neu rai ohonynt yn unol ag angen.

Mae llawer o gyfleoedd ar gael i’r athro holi’r disgyblion trwy ddefnyddio ymagweddau amrywiol gan ddefnyddio sgiliau meddwl lefel is a lefel uwch.

Adborth gan y Dysgwr

  • Mwynhaodd y disgyblion y gweithgaredd.  
  • Fe wnaethant allu holi ei gilydd yn effeithiol a datblygu eu sgiliau meddwl.
  • Fe wnaethant fwynhau’r gweithgaredd fideo i ddyfalu pa ddeunydd oedd yn gwneud y swn.
  • Cytunodd y disgyblion eu bod yn gallu datblygu eu hymchwiliad gyda chymorth yr adnodd.

Adnoddau Eraill

Ystafell gyfrifiaduron gyda 18 Cyfrifiadur Windows, deunyddiau gwneud nodiadau fel byrddau gwyn bach ac ysgrifbinnau marcio.  

Gwersi a Ddysgwyd

Canolbwyntiodd y disgyblion yn dda gan ddefnyddio offer ar-lein sydd ar gael. Fe wnaethant allu cofnodi eu meddyliau yn uniongyrchol gan ddefnyddio’r offeryn testun ac argraffu sgriniau priodol at ddibenion cofnodi.