#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Pengwiniaid

Pengwiniaid

Prif Ffocysau: Sgiliau Rhifedd,
Ffocysau Pellach: DMaAGD, Mwy galluog a thalentog, Dysgu wedi’i Bersonoli, Arfer myfyriol,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Uned sydd yn adeiladu ar yr ymchwiliad llyffantod sydd ar gael ar wefan GCaD Cymru, er mwyn caniatáu i’r disgyblion ymestyn eu dysgu wrth ddilyn fformat cyfarwydd.

Nod y wers oedd dangos sut y gellid cyfuno adnodd rhyngweithiol â dulliau mwy confensiynol o addysgu a gwaith grwp er mwyn mynd i’r afael â’r fframwaith sgiliau a datblygu meddwl.

Roedd y bwrddgwyn rhyngweithiol yn sbardun ac yn ddefnyddiol i gyniwair syniadau ond roedd y mwyafrif o’r dysgu yn digwydd i ffwrdd o’r cyfrifiadur.

Effaith a Chanlyniad

  • Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnig digonedd o gyfleoedd i ddatblygu a chymhwyso sgiliau rhifedd y disgyblion wrth weithio mewn modd systematig.
  • Roedd natur y gweithgareddau a’r dulliau o grwpio’r disgyblion yn gymorth i hybu eu sgiliau meddwl ac roedd y drafodaeth mewn parau ac yn y grwp yn gymorth iddynt ddeall y cysyniadau mathemategol o fewn y gwaith.
  • Mae natur y gweithgareddau yn caniatáu i ddisgyblion gyrraedd eu lefel eu hunain ac yn arwain at ddysgu personol.
  • Roedd cyfleoedd ar gyfer gwaith ymestynnol ar gyfer y disgyblion mwyaf galluog wrth weithio ar yr un cysyniadau a gweddill y dosbarth.
  • Wedi i’r disgyblion lenwi’r cynllun ar ddechrau’r gweithgaredd roedd modd eu hatal a gofyn iddynt adfyfyrio ar eu dulliau ac ystyried a oeddynt yn  effeithiol.

Adnoddau Eraill

Cownteri a’r taflenni y mae modd eu hargraffu sy’n rhan o’r uned.

Gwersi a Ddysgwyd

Byddwn wedi hoffi gallu diffodd y botymau ateb ar y sgriniau fel bod modd cyfeirio’r disgyblion at y gwaith gartref.  Wrth i ddisgyblion gyrchu gwaith ar adegau y tu hwnt i’r dysgu ffurfiol mae’n gyfle i ymddiddori'r rhieni yn y gwaith.  Mae’r math yma o adnodd addas ar gyfer dysgu estynedig gyda chyfle i’r rhieni a’r plant gydweithio i ddatrys y broblem.