#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Owain Glyndŵr

Owain Glyndŵr

Prif Ffocysau: Dysgu wedi’i Bersonoli,
Ffocysau Pellach: Mwy galluog a thalentog, Dysgu Estynedig, Cynhwysol, Sgiliau Llythrennedd,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Defnyddiwyd yr adnoddau i gynorthwyo disgyblion wrth ddadansoddi dau ddehongliad hanesyddol gwahanol ar Owain Glyndwr, ac wrth benderfynu a yw’n haeddu cael ei weld fel arwr Cymreig ai peidio.

  • Roeddwn am herio’r disgyblion i gael hyd i atebion drostynt eu hunain.
  • Roeddwn i hefyd am ddefnyddio gweithgaredd ysgogol fyddai’n annog y disgyblion i ddefnyddio gwybodaeth flaenorol i ddatrys problemau.
  • Gweithiodd y disgyblion ar eu liwt eu hunain, ond fe’u hanogwyd hefyd i weithio gyda phartneriaid er mwyn paru a rhannu.
  • Defnyddiais  5.1  i gyflwyno’r dasg i’r dosbarth a thrafod beth yr oedd disgwyl iddynt ei wneud. Yna cyflwynais y ffynonellau ac fe anogais y dosbarth i drafod yr hyn yr oeddent wedi ei ddysgu trwy edrych ar y dadansoddiadau gwahanol. Yn dilyn hynny, gofynnais i’r disgyblion agor 5.3( wedi’i lwytho ar VLE a’r fewnrwyd) fel bo modd iddynt ddadansoddi’r dehongliadau trwy gyflawni’r gweithgareddau. Mae Fersiwn 5.3 yn caniatáu i ddisgyblion deipio eu hatebion ac yna argraffu eu gwaith.
  • Anogwyd y disgyblion i ddefnyddio’r adnoddau gartref gan eu bod ar gael trwy gyfrwng yr VLE.
  • Anogwyd dysgu annibynnol gan fod y disgyblion yn gallu gweithio trwy’r gweithgaredd hwn heb fawr o gymorth gennyf i.
  • Roedd y disgyblion yn cynnig cefnogaeth gyfoed dda i’w gilydd trwy gyfrwng y broses paru a rhannu.
  • Ar ddiwedd y dasg, gofynnwyd i ddisgyblion ystyried beth a ddysgwyd ganddynt ac a fyddai modd defnyddio gweithgaredd tebyg wrth adolygu’r pynciau eraill oedd wedi eu hastudio.

Effaith a Chanlyniad

  • Mae’r gweithgaredd yn galluogi disgyblion i weithio’n annibynnol ac yn darparu adborth yn syth gyda’r  adnodd wirio sy’n rhan allweddol o’r holl adnoddau rhyngweithiol. Roedd hyn yn fodd i ysgogi’r disgyblion gan wneud y broses ddysgu yn un hwyliog iddynt. Roedd disgyblion yn gallu gwerthuso eu canlyniadau eu hunain a gweithredu arnynt.
  • Rhoddwyd hwb i ddysgu annibynnol gan fod modd i’r disgyblion gyrchu adnoddau a deunyddiau o’u cartrefi eu hunain.
  • Roedd y disgyblion yn bositif iawn am y gwaith gan fwynhau’r heriau o ddatrys problemau trwy ddefnyddio adnoddau rhyngweithiol. Bu’r broses yn gymorth o ran gwella lefelau canolbwyntio ac o ran dan sylw’r disgyblion gyda’r gwaith.
  • Roedd defnyddio’r adnoddau gweledol mwy apelgar yn gyfrwng i sicrhau bod disgyblion o wahanol lefelau gallu yn cymryd rhan yn y gwaith.
  • Roedd disgyblion yn gwrando’n fwy astud ar eu cyfoedion yn dilyn y pwyslais ar gyd-weithio a chefnogi . Gofynnwyd i ddisgyblion baru a rhannu syniadau wrth weithio yn yr ystafell gyfrifiadurol.
  • Anogwyd dysgu annibynnol gan fod y disgyblion yn gallu gweithio gyda’i gilydd heb fod rhaid i’r athro dosbarth fod yn rhan o’r broses.
  • Roedd cyfle i’r disgyblion mwy abl a thalentog i ddatblygu syniadau gwahanol a’u cyflwyno’n ysgrifenedig
  • Roedd disgyblion yn gallu teipio ac argraffu ymatebion oedd wedyn yn fodd i’w cynorthwyo i strwythuro eu hymatebion ysgrifenedig.
  • Roedd disgyblion yn gallu gwella ansawdd eu hymatebion ysgrifenedig a defnyddio termau a dyddiadau hanesyddol yn fwy effeithiol. Arweiniodd hyn ar welliant yn safon y gwaith ysgrifenedig yn gyffredinol.
  • Roedd disgyblion sydd yn cyflawni’n uwch yn derbyn cyfleoedd i wneud hynny trwy’r gweithgareddau creadigol oedd ar waith.
  • Doedd dim angen addasu’r gwaith ac roedd modd ei ddefnyddio’n union fel ag yr oedd gan ei fod mor drylwyr. Roedd y cyfarwyddiadau hefyd yn glir gan olygu ei fod yn hawdd i’r disgyblion ei ddefnyddio.

Adborth gan y Dysgwr

“Rôn i’n hoffi’r syniad o  gael hyd i’r atebion drosta’ fi fy hun.”

“Roedd hi’n dda gallu trio cael hyd i’r atebion drostynt ein hunain”

Adnoddau Eraill

6.1 Glyndwr-interpretation.doc

Gwersi a Ddysgwyd

Dylid paratoi’r trefniadau eistedd mewn ystafell gyfrifiadurol ymlaen llaw er mwyn sicrhau fod gan y disgyblion y partneriaid dysgu priodol.

Unwaith mae’r gweithgaredd wedi’i gyflwyno, gellid ei gwblhau gan y disgyblion gartref ac fe ellid e-bostio’r gwaith i’r athro dosbarth.