
Americanwyr Brodorol
Ffocysau Pellach: Cynhwysol, DMaAGD,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Uned yn canolbwyntio ar ddulliau thematig o ddysgu a gwella sgiliau.
Fe ganolbwyntiodd yr uned hon ar ddull thematig o ddysgu’r cwricwlwm ac fe’m galluogodd i gyflwyno a/neu wella’r sgiliau amrywiol a gynhwysir yn awr yn y Cwricwlwm Cenedlaethol Diwygiedig ar gyfer Cymru.
Fy nod oedd helpu disgyblion i gaffael sgiliau trosglwyddadwy yn ogystal â gwybodaeth ar draws yr ystod pynciau a gynhwysir yn yr uned hon. Yn ychwanegol at hyn, fe wnaeth y disgyblion fwynhau natur ryngweithiol yr uned o ran y defnydd o fwrdd gwyn rhyngweithiol a chyfranogiad y grŵp.
Effaith a Chanlyniad
Mae’r project wedi bod o fudd i’r dysgwyr yn fy nosbarthiadau drwy eu cael i ymwneud mwy â’u dysgu eu hunain, a dod yn ymchwilwyr mwy brwdfrydig.
Mae sgiliau llefaredd plant yn gwella oherwydd trafodaethau pâr a grwp. Maen nhw’n gallu rhoi rhesymau dros bethau yn fwy parod nag o’r blaen. Maen nhw hefyd yn dangos dealltwriaeth o faterion mwy pwysig a dyfnach.
Gwersi a Ddysgwyd
Mae caniatáu i blant rannu eu syniadau fel grwp yn arwain at ddealltwriaeth ddyfnach o destun.