#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Offer ar gyfer Cyflwyniad Amlgyfrwng

Offer ar gyfer Cyflwyniad Amlgyfrwng

Prif Ffocysau: Sgiliau Llythrennedd,
Ffocysau Pellach: Dysgu wedi’i Bersonoli, Asesiad Cyfoedion, Cynhwysol, Dysgu Estynedig, Cyflawniad Bechgyn, DMaAGD,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Defnyddiwyd y gweithgaredd hwn ar gyfer disgyblion yn CA4 i’w helpu â byrddau stori wrth gynllunio adnodd fideo.

Gellir dod o hyd i’r adnodd yn adran CA2 adnoddau addysgu TGCh GCaD Cymru, ond credaf y gellid ei ddefnyddio mewn unrhyw bwnc a hyd at CA4 pan fydd dysgwyr yn cynllunio adnodd fideo, neu sioe sleidiau.

Mae’r prif weithgaredd yn cynnig llwyfan defnyddiol ar gyfer bwrdd stori y gellid ei ddefnyddio i roi cyflwyniadau am y tro cyntaf, lle mae’n fuddiol defnyddio’r delweddau a’r synau a ddarperir yn y gweithgaredd, neu fel offeryn bwrdd stori ar gyfer prosiectau yn y dyfodol sy’n cynnwys cyflwyniadau mewn fformatau amrywiol.  Mewn gwirionedd, byddwn fel arfer yn gwneud y gweithgaredd gyda’m disgyblion ac yn gadael iddynt gwblhau eu cyflwyniadau gyda’r golygydd yn rhan 2 y brif sesiwn yn gyntaf.  Mae’r offeryn hwn yn syml iawn ac yn reddfol ac mae’n ddechrau da i’r plant. Ond byddwn yn rhoi’r un teitl iddynt ac yn gofyn iddynt greu cyflwyniad gyda’r feddalwedd a/neu offeryn Web 2.0 o’u dewis. Gall fod yn well rhoi awgrymiadau yma, fel Photo Story 3, Photopeach, Prezi, PowerPoint, Dvolver, Movie Maker, ac ati...

Mae’n bwysig cael opsiwn i ddewis y feddalwedd o’u dewis i fodloni gofynion y Fframwaith Sgiliau, sy’n datgan yn un o’r sgiliau “Creu a chyflwyno gwybodaeth a syniadau trwy gyfuno amrywiaeth o wahanol ffurfiau gwybodaeth, yn cynnwys testun, delweddau, graffiau, ffeiliau cerddoriaeth, gyda synnwyr datblygol o gynulleidfa i’w gwaith”. I’r un diben, mae hefyd yn ddefnyddiol rhoi cynulleidfa darged i’r dysgwyr, neu hyd yn oed yn well, rhoi cynulleidfaoedd targed gwahanol i bob grwp a galluogi iddynt archwilio’r math mwyaf priodol o gyflwyniad a’r offeryn a fydd yn galluogi iddynt gyrraedd eu nod. Mae’r fideo isod yn canolbwyntio ar ddau o’r offer a restrir uchod, sef Photo Story 3 a Photopeach.

Effaith a Chanlyniad

  • Wrth ddefnyddio byrddau stori, mae fideos a sioeau sleidiau yn ffordd ragorol o ddatblygu Llythrennedd ymhlith dysgwyr ifanc, gan ei fod yn galluogi iddynt ymgysylltu â’r testun mewn ffordd weledol iawn gyda chymorth offer aml gyfrwng. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ddod o hyd i ffyrdd o fynegi eu syniadau mewn ffyrdd cryno sy’n dal sylw’r gynulleidfa a byddant yn datblygu gallu i gyfleu meddyliau a chysyniadau trwy amrywiaeth o adnoddau, yn cynnwys testun ac adroddiadau wedi’u cofnodi.
  • Mae defnyddio Photopeach i greu sioeau sleidiau yn galluogi’r datblygwyr i brofi gwybodaeth a dealltwriaeth eu cyfoedion gyda Quiz Creator sy’n hawdd iawn i’w ddefnyddio a chael adborth gan eu ffrindiau dosbarth hefyd trwy’r sylwadau y gall y gwylwyr eu cofnodi ar y fideo ar ddiwedd y sioe sleidiau.  Mae Photopeach yn offeryn da iawn ar gyfer asesu ar gyfer dysgu ac asesu cyfoedion uniongyrchol.
  • Caiff bechgyn ddewis cyflwyno eu sioeau sleidiau a/neu’u fideo gan ddefnyddio Photo Story 3, sy’n galluogi iddynt adrodd y “stori” y tu ôl i bob ffrâm y maent wedi’i hychwanegu. Mae hyn yn golygu nad oes angen iddynt ysgrifennu paragraffau hir i gyfleu eu neges, ac maent yn aml yn teimlo’n well amdanynt eu hunain os cânt gyfle i gofnodi eu cyfraniadau yn unig. Fodd bynnag, gallant hefyd ysgrifennu eu sgript yn yr adran olygu wrth bob sleid, er mwyn iddynt allu cynllunio’r hyn y maent am ei ddweud ymlaen llaw a gallant fynd yn ôl ato sawl gwaith cyn iddynt ddechrau cofnodi eu llais.
  • Mae rhoi dewis ehangach o feddalwedd ac offer i blant gyflwyno eu gwaith yn ddull mwy cynhwysol, gan ei fod yn galluogi’r dysgwr i benderfynu ar arddull y cyflwyniad sy’n gweddu orau i’w bersonoliaeth. Mae hyn hefyd yn ffordd o alluogi’r dysgwyr i ymgysylltu yn eu haddysg mewn ffordd fwy personol.
  • Mae’r math hwn o weithgaredd yn hynod ddifyr ac yn fy mhrofiad i, bydd myfyrwyr yn aml yn dechrau gan ddefnyddio’r offer hwn gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau, e.e. i rannu eu gwyliau, ac ati.  Dysgu estynedig yn wir yw hyn.

Adborth gan y Dysgwr

‘Mi wnes i wir fwynhau defnyddio Photo Story, oherwydd roeddwn yn gallu dweud beth roeddwn i eisiau ac yn ei chael yn haws esbonio fy mhwyntiau!’

‘Mae byrddau stori yn hwyl, ac fe wnaeth helpu i mi feddwl ynglyn â beth ddylwn i roi yn fy nghyflwyniad. Roedd y cyflwyniad yn well.’

‘Rwy’n hoffi Photopeach, oherwydd gall fy ffrindiau ddweud wrthyf beth yw eu barn am fy ngwaith!”

Adnoddau Eraill

Mae’r gweithgaredd hwn yn gweithio’n well os gall grwpiau o ddau neu dri disgybl rannu cyfrifiadur neu liniadur. Mae’n haws defnyddio microffonau a phensetiau i blant recordio eu lleisiau.

Gwersi a Ddysgwyd

Nid yw disgyblion yn aml yn deall pwysigrwydd materion hawlfraint ac mae’r gweithgaredd hwn yn rhoi cyfle iddynt ymdrin â’r agwedd hon ar olygu aml-gyfrwng.