
A Fyddai Mari yn gallu troi Lloegr yn wlad Babyddol eto?
Ffocysau Pellach: Cynhwysol, Asesiad Cyfoedion, Cyflawniad Bechgyn, Dysgu wedi’i Bersonoli,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Gweithgaredd sgiliau meddwl a gymerodd wers gyfan 50 munud i ddisgyblion a oedd yn astudio newid a gwrthdaro crefyddol yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg.
Mae’r adnodd yn gofyn i ddisgyblion benderfynu a allai Mari I wneud Lloegr yn wlad Babyddol eto trwy benderfynu a fyddai ffactorau penodol yn ei helpu ai peidio.
- Wrth ddefnyddio’r adnodd, roeddwn am herio’r disgyblion i ddefnyddio dysgu blaenorol wrth feddwl am yr heriau yr oedd Mari I yn eu hwynebu ar ddechrau ei theyrnasiad, a llunio ateb estynedig yn y pen draw. Roeddwn hefyd am ddefnyddio gweithgaredd ysgogol a heriol i ennyn diddordeb y disgyblion, yn enwedig bechgyn, a disgyblion mwy galluog a thalentog, a gofynnwyd i’r disgyblion roi eu barn.
- Roedd y bechgyn yn awyddus iawn i gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn gan ei fod yn galluogi disgyblion i fynd at y bwrdd gwyn rhyngweithiol i gyflawni gweithredoedd amrywiol. Cynyddwyd cyfranogiad y bechgyn hefyd gan fod y gweithgaredd yn annog disgyblion i gydweithio. Roedd hefyd yn golygu bod disgyblion ag anghenion arbennig a chymhleth yn cymryd rhan.
- Mae’r dasg hon yn arbennig o addas ar gyfer disgyblion mwy galluog a thalentog gan ei bod yn annog rhesymu ac yn galluogi iddynt lunio atebion estynedig a chymryd rhan mewn trafodaeth a dadl hefyd. Fe wnes i hefyd allu herio’r disgyblion hyn trwy ystyried y cwestiynau canlynol: Pam oedd Edward wedi gallu gwneud Lloegr yn wlad Brotestannaidd pan oedd y rhan fwyaf o bobl yn Babyddion? A fyddai derbyn yr Eglwys Babyddol yn golygu bod yn rhaid i bobl dderbyn y Pab eto?
- Fe wnaeth y gweithgaredd hefyd alluogi grwpiau i gyflwyno eu syniadau i’r dosbarth trwy symud o gwmpas y swigod siarad ar sleid 4 yn y gweithgaredd ‘ar y ffens’.
- Wedyn, gofynnwyd i’r disgyblion ysgrifennu cyngor i Mari ar ei rhagolygon o wneud Lloegr yn wlad Babyddol eto. Fe wnaeth y gweithgaredd grŵp roi sylfaen i’r disgyblion ar gyfer gwneud hyn.
Effaith a Chanlyniad
- Roedd y gweithgaredd yn ffactor arwyddocaol mewn datblygu sgiliau dysgu, meddwl a chyfathrebu disgyblion. Fe wnaeth llawer o ddisgyblion allu ymestyn eu dysgu trwy’r gweithgaredd hwn a llunio atebion ysgrifenedig ardderchog.
- Mae’r gwaith yn cyfrannu at ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol gan fod angen iddynt gefnogi’r pwyntiau a wnaed.
- Fe wnaeth defnyddio’r gweithgaredd arwain at ganolbwyntio ac ymgysylltu gwell ar gyfer disgyblion ac arweiniodd hyn felly at ddatblygu sgiliau meddwl a datrys problemau.
- Fe wnaeth defnyddio adnoddau gweledol mwy difyr a defnyddio’r adnoddau rhyngweithiol annog cyfranogiad gwell gan y bechgyn yn y dosbarth, yn enwedig gan eu bod yn gallu mynd i fyny at y bwrdd gwyn rhyngweithiol. Ymgysylltodd disgyblion ag anghenion arbennig a chymhleth yn fwy gweithredol hefyd.
- Gwrandawodd disgyblion yn fwy astud ar eu cyfoedion wrth annog cydweithio a chymorth pan oedd disgyblion yn ymgymryd â gweithgareddau’r bwrdd gwyn rhyngweithiol. Dangosodd y disgyblion fwy o barch at ddisgyblion eraill ac roeddent yn fodlon aros eu tro wrth ateb cwestiynau gan wybod y byddai gofyn iddynt roi eu barn.
- Anogwyd dysgu annibynnol gan fod disgyblion yn gallu cydweithio heb gynnwys yr athro dosbarth.
- Rhoddwyd cyfle i ddisgyblion mwy galluog a thalentog ddatblygu llinellau meddwl a chyflwyno eu syniadau trwy gyfathrebu ysgrifenedig a llafar.
- Nid oedd angen addasu’r gweithgaredd a gellid ei ddefnyddio fel yr oedd. Roedd yr elfen swyddogaethol yn syml hefyd, a oedd yn golygu ei fod yn hawdd i ddisgyblion ei defnyddio ond gallai fod problemau yn rhoi’r gweithgaredd ar waith os na chaiff y gosodiadau diogelwch ar gyfer macros eu newid.
Adborth gan y Dysgwr
‘Roedd yn wych trafod syniadau mewn grŵp gan ei fod yn golygu fy mod yn dechrau meddwl am syniadau newydd.’
‘Cawsom ein hannog i feddwl nad oedd unrhyw ateb anghywir a oedd yn dda gan ei fod yn golygu fy mod yn gallu rhoi fy marn.’
Gwersi a Ddysgwyd
Mae’r ffaith fod grwpiau’n cael eu dewis gan yr athro yn helpu hwyluso mwy o drafodaeth ac yn datblygu synnwyr gwell o annibyniaeth i’r disgyblion.
Gellir addasu’r gweithgaredd yn hawdd i ymdrin â thestunau eraill.