
Cryfder a Thraw
Ffocysau Pellach: Asesiad Cyfoedion, Sgiliau Llythrennedd,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Uned hon o waith sy’n cynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth y disgybl o gysyniadau cryfder a thraw.
Roedd sawl gweithgaredd sgiliau meddwl ar gyfer trafodaethau dosbarth/grwp/partneriaid. Roedd gweithgareddau hefyd lle cafodd y plant gyfle i brofi sain a chryfder offerynnau. Mae hyn yn ddefnyddiol pan na fo offerynnau cerddorol ar gael i’r plant. Cafwyd hefyd weithgareddau oedd yn datblygu sgiliau iaith a sgiliau ymchwiliol.
Defnyddiwyd yr adnodd wrth edrych ar sut mae pethau’n gweithio – sut mae seiniau gwahanol yn cael eu cynhyrchu a’r modd mae sain yn teithio.
Roedd angen bwrdd gwyn rhyngweithiol i gyflwyno’r tasgau gwahanol o fewn yr adnodd. Roedd cyfleoedd i weithio i ffwrdd o’r bwrdd lle anogwyd y plant i drafod gyda phartner neu o fewn grwp. Fe ddefnyddiodd y plant yr adnodd hefyd wrth weithio gyda phartner wrth gyfrifiadur.
Effaith a Chanlyniad
- Anogwyd y disgyblion i feddwl/paru/rhannu eu syniadau ac arweiniodd hyn at fwy o ddealltwriaeth wyddonol o lawer o’r hyn oedd yn digwydd ac roedd ymatebion y disgyblion yn dystiolaeth o hyn.
- O amrywio fy null o fynd i’r afael â'm gwersi drwy ddefnyddio TGCh fel offer, cefais fod mwy o ddisgyblion yn ymwneud yn weithredol yn y gwersi drwy nifer o weithgareddau heriol/meddwl/ymarferol a gaed yn yr adnodd. Gwelais fod y plant yn ymwneud ac yn frwdfrydig yn ystod y wers a’u bod yn awyddus i ymchwilio’r testun a astudiwyd.
- Yn ogystal â chynnydd mewn brwdfrydedd, teimlais fod y disgyblion yn ymwneud â nifer o dasgau unigol/partneriaid a thasgau dosbarth oedd yn herio eu syniadau a’u gwybodaeth gychwynnol o’r modd mae cryfder a thraw yn cael eu cynhyrchu. Trwy edrych ar yr adnodd Sain - Cryfder a Thraw yn fwy manwl a chwblhau’r tasgau amrywiol o fewn yr adnodd rwy’n teimlo bod y plant wedi datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach.
Cafodd y disgyblion ddealltwriaeth ddyfnach drwy asesiad cyfoedion – cafodd eu syniadau eu herio gan aelodau eraill o’r grwp ac roedd unigolion yn gallu addasu neu adeiladu ar eu syniadau cychwynnol.
Gwersi a Ddysgwyd
Teimlaf fod y disgyblion wedi cael dealltwriaeth ddyfnach o gryfder a thraw drwy weithio ar y problemau mewn grwpiau.