
Llyn y Fan Fach
Ffocysau Pellach: Dwyieithrwydd, Sgiliau Llythrennedd, Sgiliau Rhifedd, DMaAGD, Dysgu Estynedig,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Defnyddiwyd yr adnodd hwn o fewn hanner tymor o waith yn rhoi sylw i waith naratif. Roedd y disgyblion wedi ymdrin â chwedlau ymhob blwyddyn ysgol cynt ac felly’n gyfarwydd â rhai nodweddion chwedl. Roedd cynnwys y chwedl leol hon hefyd yn atgyfnerthu y Cwricwlwm Cymreig.
Ceisiwyd edrych ar y chwedl mewn perthynas â’r fframwaith sgiliau fel bod ffocws pendant i’r Sgiliau Meddwl a Chyfathrebu. Un o fanteision defnyddio adnoddau GCaD Cymru yw bod y plant yn datblygu sgiliau TGCh wrth ymdrin â’r gweithgaredd ar lein. Ceisiwyd edrych yn ehangach ar sgiliau TGCh wrth wneud defnydd o’r we a defnyddio rhaglen ‘Activinspire’ wrth ddarllen y chwedl. Mae gweithgareddau cychwynnol yn cynnwys sgiliau rhif gan gynnwys, pellter, amser, cyfesurynnau, gwaith cwmpawd a darllen/gosod symbolau ar fap. Gellir datblygu'r rhain ymhellach na’r hyn wnaed yn y gweithgaredd hwn. Mae’n enghraifft o sut y gellid defnyddio adnodd ar wefan GCaD Cymru i greu cyd-destun thematig a thrawsgwricwlaidd ar lawr y dosbarth.
Gwers 1
Gweithgaredd1
Rhoi lluniau o gymeriadau mewn chwedlau cyfarwydd i un disgybl mewn pâr. Un disgybl yn disgrifio’r cymeriad o ran golwg a’r hyn sydd yn y llun. Disgybl arall yn tynnu’r llun yn ôl y disgrifiad. Dyfalu pwy yw’r cymeriad. Gwerthuso gwaith. Sut wnaethon nhw ddisgrifio’r llun? Pa fath o eiriau a ddefnyddiwyd? Oedd y disgrifid yn un clir neu beidio? Pam? Ydy hi’n bwysig i awdur/awdures i ddisgrifio cymeriad yn glir? Pam?
Gweithgaredd 2
Edrych ar luniau’r stori mewn grwpiau o 3.
- un disgybl yn cofnodi syniadau
- disgybl sy’n arwain y trafod
- disgybl sy’n adrodd yn ôl.
Pob grŵp i dderbyn un llun ac i drafod beth sydd yn y llun. Rhagfynegi wrth drafod pwy yw’r person, ble maen nhw, beth maen nhw’n wneud, beth sydd wedi/mynd i ddigwydd? Sut fath o gymeriad yw’r person? Sut mae’n teimlo? Adrodd yn ôl yn eu grwpiau.
Wrth glicio ar yr arwydd + yn yr adnodd ar-lein mae’r lluniau’n dod yn fwy o faint.
Gweithgaredd 3
Cyflwyno’r stori ar-lein ac esbonio pam gafodd ei ddewis.
Trafod cyn ac ar ôl ei ddarllen:
- Pwrpas: Pam gafodd ei ysgrifennu?
- Cynulleidfa: Pryd gafodd ei ysgrifennu?
Lliwio wrth ddefnyddio ‘ActivInspire’ i anodi’r testun Penderfynu ar bwyntiau penodol yn y stori. Darllen y testun a chanolbwyntio ar fwynhad ac ystyr. Cyfeirio at brif ddigwyddiadau/ cymeriadau. Trafod lleoliad. Ail-ddarllen - plant i gymryd rhan i ddarllen darnau gyda’i gilydd. Grwpiau’n cymryd rôl gwahanol gymeriadau yn y stori. Dim mwy na 10 i 20 munud o hyd. Gwerthuso ac ymateb i’r darllen.
Gweithgaredd 4
Defnyddiwyd y gweithgareddau ar-lein fel parau ar gyfer y gweithgaredd ffocws. Roedd hwn yn gyfle i atgyfnerthu dealltwriaeth y disgyblion o brif ddigwyddiadau’r stori.
Rhan 2: Trefnu Lluniau a Brawddegau (2 lefel wahaniaethol)
Trefnu brawddegau ar gyfer y parau uwch eu gallu.
Gweithgaredd 5
Rhan 4 : Gwir neu gau. Defnyddio’r gweithgaredd ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol gyda’r dosbarth cyfan. Darllen y brawddegau ar y cyd. Parau’n trafod y frawddeg. Sicrhau eu bod yn dod i benderfyniad ynglŷn â pham fod y frawddeg yn wir neu’n gau er mwyn cadarnhau dealltwriaeth y disgyblion o ddigwyddiadau’r stori.
Gweithgareddau Pellach:
Edrych ar gymeriadau yn y chwedl
Rhan 4: Chwilio’r gwahaniaeth - Pyramid 9
Trafod cymeriadau - pwy ma’ nhw’n feddwl ydyn nhw yn y stori. Sut mae’n debyg iddyn nhw? Defnyddio taflen waith ‘Yn debyg i….’
Gweithgaredd Pêl Risial
Pob aelod o’r grŵp yn cael un cymeriad. Tasgu syniadau am eu cymeriad - beth ma nhw’n hoffi/ddim yn hoffi/diddordeb/personoliaeth. Defnyddio taflen grid mat ‘Dewis Cymeriad’.
Creu gorffennol a dyfodol i‘w cymeriad - rhaid i’r rhagfynegiadau fod yn dod o’r wybodaeth yn y testun
Meddwl a Rhannu: taflen waith sy’n annog y disgyblion i edrych nôl ar brif ddigwyddiadau’r chwedl ac yna ystyried teimladau a gweithredoedd y cymeriad ochr yn ochr â’r rhain.
Darlleniad Radio:
Gweithgaredd llafar. Rhoir cyfle i’r disgyblion ymarfer eu darlleniad o’r chwedl, neu fod grwpiau o fewn y dosbarth yn cymryd rhannau o’r stori. Rhaid edrych ar sgiliau darllen:
e.e. Seibio
- Rhoi pwyslais
- Dangos teimlad
- Llais dwfn/llais menyw
- Llais cryf
- Sibrwd
Gall y disgyblion greu allwedd o’r rhain a gosod y symbolau ar y testun i’w cynorthwyo wrth ddarllen. Bydd cyfle gwych fan hyn i grwpiau eraill o fewn y dosbarth i werthuso’u gwaith gan ddefnyddio’r allwedd.
Addasu’r stori i greu sgript ac un person i ddarllen y naratif. Recordio neu berfformio’u gwaith a gwerthuso’r broses o weithio a’r canlyniad terfynol.
Effaith a Chanlyniad
- Wedi datblygu Sgiliau Meddwl, Cyfathrebu, TGCh a Defnydd o Rif yn y gweithgareddau.
- Cyd-ddarllen fel dosbarth neu grwpiau yn gyfle da i asesu sgiliau darllen y disgyblion ar ddechrau uned o waith ac wedyn yn rhoi ffocws clir i gynllunio tasgau addas i fodelu darllen.
- Disgyblion yn magu hyder a rhuglder wrth ail-ddarllen yr un tesun ac ymchwilio ymhellach i mewn i destun.
- Cyfleoedd cyson drwy’r gweithgareddau i ddisgyblion ddatblygu sgiliau meddwl ac i werthuso ansawdd gwaith yn ogystal â’r broses o gyd-weithio, dod i benderfyniadau, ac addasu a gwirio gwaith ac ati.
- Cyfleoedd i ddisgyblion weithio fel partneriaid neu grwpiau. Mewn sefyllfaoedd pwrpasol fel hyn mae disgyblion yn dysgu wrth ei gilydd a hefyd yn datblygu sgiliau trafod, mynegi barn, holi cwestiynau i’w gilydd, ac yn y blaen, yn naturiol.
- Mae’r gweithgaredd ar lein wedi eu gwahaniaethu ac felly mae’n hwyluso’r broses o baratoi tasgau gwahaniaethol ar gyfer disgyblion y dosbarth.
- Mae natur y chwedl ar-lein yn rhoi cymorth arbennig i ddisgyblion ddarllen a dehongli’r chwedl yn annibynnol. Gellir defnyddio’r botwm sain i’r chwedl gael ei chlywed. Roedd disgyblion yn gallu gwirio, gwrando ac ail-wrando wrth iddynt gael anhawster gyda geiriau neu gymal. Roeddent felly’n gallu gweithio ar gyflymdra eu hunain a llwyddo.
- Roedd cyfleoedd cyson ar gyfer Asesu ar Gyfer Dysgu gan fod y gweithgareddau’n rhai byr ac amrywiol ac amser yn y wers yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer bwydo nôl a gwerthuso gwaith.
- Disgyblion yn gallu ail-ddarllen y chwedl fel tasg gwaith cartref ar-lein. Maen nhw hefyd yn gallu cadarnhau eu dealltwriaeth gyda’r gweithgareddau ar-lein.
Adborth gan y Dysgwr
‘Dwi’n hoffi darllen ac ysgrifennu chweldau achos does dim rhaid i bopeth fod yn wir!’
‘Dwi’n hoffi gwrando ar rywun yn darllen y stori i fi. Ond roedd e’n fwy defnyddiol hefyd i gael y stori ar y sgrîn o’n blaenau ni. Pan roedd fy athrawes yn sôn am eiriau arbennig roeddwn i’n gallu eu gweld o fewn y brawddegau.’
‘Roeddwn i’n hoffi’r gweithgareddau ar y cyfrifiadur achos redden nhw’n glir a ddim yn rhy anodd. Dwi’n hoffi gweithio gyda phartner.’
Adnoddau Eraill
Taflenni gwaith, copi o’r Chwedl, mapiau a lluniau o’r lleoliad, lluniau o gymeriadau mewn chwedlau eraill, lluniau unigol o’r chwedl, copiau o chwedlau dwyieithog I hybu dwyieithrwydd.
Gwersi a Ddysgwyd
Disgyblion yn cael budd o gyd-ddarllen ac o fodelu darllen da. Chwedl neu destun yn gallu bod yn sbardun i waith thematig am gyfres o wythnosau. Mae gweithgareddau sgiliau meddwl yn werth chweil wrth i ddisgyblion ddod i adnabod digwyddiadau a chymeriadau’n ddyfnach.