#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Cyflwyniad i Daenlenni 1

Cyflwyniad i Daenlenni 1

Prif Ffocysau: Sgiliau Rhifedd,
Ffocysau Pellach: Dysgu wedi’i Bersonoli, Mwy galluog a thalentog,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Adnodd a ddefnyddiwyd i gyflwyno taenlenni i ddisgyblion Bl 4 ac i ymestyn sgiliau disgyblion Bl 5 a Bl 6 drwy ddefnydd fformiwlâu.

Adnabyddiaeth o Daenlenni – Cynigodd y defnydd o'r gweithgaredd hwn (ar Fwrdd Rhyngweithiol Gwyn o flaen dosbarth cyfan) ragarweiniad byr, ond clir a sylfaenol i eirfa taenlenni i'r sawl a gyrhaeddodd lefel cychwynnol ; ond cynigodd hefyd adolygiad apelgar o'r eirfa hon i ddisgyblion hyn, oedd yn cynnal eu diddordeb drwy ei hanimeiddiadau a chymeriad anarferol o od y robot.

Adnabyddiaeth o Daenlenni 2 – gêm sy'n debyg i Grogi'r Crwt (Hangman) – roedd angen ychydig o baratoad gan iddo ddefnyddio rhywfaint o eirfa nas cyflwynwyd yn y gweithgaredd cyntaf. Wedi ychydig o waith paratoadol, gall y disgyblion daclo'r gweithgaredd hwn fesul pâr. Mae nifer o gwestiynau yma, wedi'u dewis ar hap. Bydd hyn yn eu galluogi i geisio sawl tro i ateb. Mewn ystafell ddosbarth brysur dros ben, byddai taflen nodiadau athro yn ddefnyddiol, gan y bydd, yn fy nhyb i, rhai o'r cwestiynau hyn ychydig yn rhyfedd.

Fformiwlâu – Roedd disgwyl i rai o ddisgyblion y dosbarth lwyddo i osod data ar daenlen a baratowyd eisioes yn unig. I'r disgyblion hynny, dim ond arddangosfa o sut oedd paratoi taenlen oedd darn agoriadol y gweithgaredd hwn. Roedd modd i ddisgyblion eraill, tra'n defnyddio cyfrifiaduron y dosbarth, weithio ar hyd y gweithgaredd a hynny hyd eitha a bod eu gallu ag amser yn caniatáu, gan ddysgu sut mae creu fformiwlâu sy'n gwneud defnydd o adio, tynnu i ffwrdd, lluosi, rhannu a'r swyddogaethau SWM a CHYFARTALEDD. O fewn dosbarth o oedran cymysg, roedd hyn yn caniatáu addysgu gwahaniaethol ac unigolyddol.

Effaith a Chanlyniad

Roedd defnyddio'r Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol i ddangos esboniadau animeiddiedig yn cynorthwyo'r disgyblion i gadw ystyr yr eirfa newydd yn fwy effeithiol na dulliau traddodiadol – mae lliw, symud a hiwmor oll yn ffactorau pwysig yn seicoleg y cof.

Cafodd rai disgyblion fudd o allu cyfeirio'n ôl at y gweithgareddau hyn – nid yw cyfrifiaduron yn barnu ac maent yn fythol amyneddgar.

Cafodd rai disgyblion y dosbarth fwynhad o'r ffaith y gallent chwarae'r gemau adre drachefn ac/neu rhannu'r gwaith fformiwlâu gyda'u rhieni, a thrwy hyn yn fodd i ymestyn yr ystafell ddosbarth.

Rwyf bob tro yn defnyddio dolenni gweithgareddau GCaD-Cymru o wefan yr ysgol – golyga hyn y gall y disgyblion (a'm cydweithwyr) gyrchu hwynt yn ddi-drafferth o'r ysgol ac o'u cartrefi a bod y ddolen yn ei briod le pan fydd y cylch cynllunio ar ein gwarthaf eto.

Adborth gan y Dysgwr

“Fe wnes i'r gêm hon unwaith eto wedi i mi gyrraedd gartref ac fe ges i 5/5.”

“Dangosais i'r taenlenni ar y wefan i fy mam a dywedodd ei bod hi'n defnyddio taenlen wrth ei gwaith.”

Adnoddau Eraill

Fe ddangosais ychydig o daenlenni a grëwyd gan ddisgyblion y llynedd er mwyn cychwyn trafodaeth ar swyddogaeth taenlenni, paham y maent yn ddefnyddiol a hefyd i gofnodi fy ngobeithion.

Fel rhan o'r trafodaethau hyn, gallwch sicrhau eich bod yn ymdrin â'r eirfa angenrheidiol ar gyfer y gêm Adnabyddiaeth o Daenlenni 2.

Gwersi a Ddysgwyd

Yn bendant fe fydd gennyf daflen o atebion ar gael y flwyddyn nesaf.