
Arfer da > Darganfod adnoddau > Problemau Harri
Problemau Harri
Prif Ffocysau: DMaAGD,
Ffocysau Pellach: Arfer myfyriol, Sgiliau Llythrennedd, Cynhwysol, Asesiad Cyfoedion, Mwy galluog a thalentog,
Ffocysau Pellach: Arfer myfyriol, Sgiliau Llythrennedd, Cynhwysol, Asesiad Cyfoedion, Mwy galluog a thalentog,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Gweithgaredd rhagarweiniol i weld pam y gwnaeth Harri VIII ei hun yn Bennaeth yr Eglwys.
- Roeddwn am herio’r disgyblion i ddod o hyd i atebion drostynt eu hunain.
- Roeddwn hefyd am ddefnyddio gweithgaredd ysgogol a heriol i ennyn diddordeb y disgyblion, i ddefnyddio gwybodaeth flaenorol i ddatrys problemau.
- Gweithiodd disgyblion mewn grwpiau o dri i drefnu cymhellion Harri dros ddod yn Bennaeth yr Eglwys yn bedwar categori – Ysgariad, Pwer, Arian a Mab.
- Defnyddiwyd yr adnodd PowerPoint rhyngweithiol i gefnogi’r defnydd o adnodd papur a oedd ar gael i’w lawrlwytho wrth i grwpiau gyflwyno eu syniadau i’r dosbarth ar ôl cyfnod o drafod.
- Dewisais grwpiau i sicrhau cymysgedd o ran gallu. Roedd grwpiau bach yn golygu nad oedd disgyblion yn ofni rhoi eu barn neu wneud camgymeriadau ac felly’n sicrhau cynhwysedd.
- Rhoddwyd disgyblion mwy galluog a thalentog gyda’i gilydd hefyd i annog trafodaeth a rhesymu.
- Rhoddodd disgyblion gymorth da i’w gilydd fel cyfoedion gan mai nhw oedd yn rhedeg y gweithgaredd.
- Ar ddiwedd y dasg, gofynnwyd i’r disgyblion ystyried beth yr oeddent wedi’i ddysgu a ph’un a ellid defnyddio gweithgaredd tebyg wrth adolygu’r pynciau eraill yr ymdriniwyd â nhw.
Effaith a Chanlyniad
- Fe wnaeth y gweithgaredd alluogi’r plant i ddatblygu eu sgiliau dysgu, meddwl a chyfathrebu. Fe wnaeth llawer o ddisgyblion allu cyfathrebu ac ymestyn eu dysgu pan ofynnwyd i ddisgyblion ysgrifennu ymateb estynedig.
- Roedd y disgyblion yn gadarnhaol iawn ac fe wnaethant fwynhau’r heriau ar gyfer datrys problemau trwy ddefnyddio adnoddau rhyngweithiol. Fe wnaeth hyn helpu gwella canolbwyntio ac ymgysylltu.
- Fe wnaeth defnyddio mwy o adnoddau gweledol difyr sicrhau cyfranogiad disgyblion o alluoedd amrywiol.
- Gwrandawodd disgyblion yn fwy astud ar eu cyfoedion wrth annog cydweithio a chymorth pan oedd disgyblion yn ymgymryd â gweithgareddau’r bwrdd gwyn rhyngweithiol. Dangosodd y disgyblion fwy o barch at ddisgyblion eraill ac roeddent yn fodlon aros eu tro wrth ateb cwestiynau gan wybod y byddai gofyn iddynt roi eu barn.
- Anogwyd dysgu annibynnol gan fod disgyblion yn gallu cydweithio heb gynnwys yr athro dosbarth.
- Rhoddwyd cyfle i ddisgyblion mwy galluog a thalentog ddatblygu llinellau meddwl a chyflwyno eu syniadau trwy gyfathrebu llafar.
- Fe wnaeth disgyblion allu defnyddio’r adnoddau papur i gwblhau gweithgaredd a oedd yn gofyn i ddisgyblion lunio ateb ysgrifenedig estynedig. Fe wnaeth categoreiddio achosion helpu disgyblion i strwythuro eu hatebion ysgrifenedig.
- Nid oedd angen addasu’r gweithgaredd a gellid ei ddefnyddio fel yr oedd ond gellid ei ychwanegu at unrhyw gyflwyniad PowerPoint presennol. Roedd yr elfen swyddogaethol yn syml hefyd, a oedd yn golygu ei fod yn hawdd i ddisgyblion ei defnyddio.
Adborth gan y Dysgwr
“Roeddwn i’n hoffi’r ffaith fy mod yn gallu rhoi fy marn a bod pawb yn gwrando.”
“Ar ddiwedd y wers, roeddwn i wir yn deall pam gwnaeth Harri hynny a sylweddolais ei fod yn ymwneud â mwy na chael mab yn unig.”
Gwersi a Ddysgwyd
Dylai grwpiau gael eu dewis gan yr athro i sicrhau cymysgedd o ystodau gallu. Ni ddylai grwpiau fod yn rhy fawr; mewn gwirionedd, gwelais mai tri oedd y nifer gywir i sicrhau bod pob disgybl yn cael ei gynnwys. Sicrhewch fod gwers gyfan yn cael ei neilltuo ar gyfer y gweithgaredd.