#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Dulliau Iach o Fyw (CRIPSAT)

Dulliau Iach o Fyw (CRIPSAT)

Prif Ffocysau: DMaAGD,
Ffocysau Pellach: Cyflawniad Bechgyn, Sgiliau Llythrennedd, Dwyieithrwydd,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Adnodd ar gyfer Blwyddyn 5 ar ddechrau testun am fyw’n iach sy’n annog y disgyblion i drafod dull iach o fyw.

  • Yn dilyn derbyn llawer o syniadau a strategaethau sgiliau meddwl yn yr ysgol, fe’i ystyriwyd yn adnodd oedd wedi ei gynllunio’n dda, gam wrth gam, a’i fod yn adnodd i’w ddefnyddio fel rhan o’r testun.
  • Roedd y ddwy dudalen gyntaf yn hawdd i’w defnyddio a’u deall. Defnyddiodd y plant yr wybodaeth oedd ganddynt hyd yn hyn yn y testun i lunio barnau gwybodus am y gosodiad a’r safbwyntiau a gynigiwyd.
  • Roeddent yn hoffi golwg y drydedd dudalen ac yn mwynhau traethu ar yr hyn a drafodwyd ganddynt fel partneriaid meddwl. Fe wnaeth rhai disgyblion ymchwilio ymhellach i’r tesun drwy ddefnyddio Google ac ymweld â gwefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd http://www.food.gov.uk/
  • Roedd y disgyblion o’r farn bod y gweithgaredd llusgo a gollwng yn fuddiol i hybu eu trafodaeth ymhellach. Cafodd hwn ei fodelu gan yr athro’n gyntaf a gwnaeth y disgyblion benderfyniadau gwybodus ar sail yr wybodaeth a gasglwyd. Roedd y disgyblion yn hoffi natur pen agored y gweithgaredd llusgo a gollwng (tab 4). Gwnaed penderfyniadau fesul pâr ac roedd unrhyw ateb anghywir yn cael ei gywiro’n gyflym gan y partner mewn trafodaeth. Aeth yr athro yn ôl at y gweithgaredd hwn yn y sesiwn cloi.
  • Deallwyd ac atebwyd tabiau 5, 6 a 7 yn hawdd. Roedd y disgyblion yn cytuno eu bod yn cael gweithgaredd tab 7 yn haws i ymgymryd ag ef yn dilyn y drafodaeth flaenorol yn yr adnodd.          
  • Cyfrannodd bechgyn yn dda at bob agwedd o’r wers. Nodwyd bod y bechgyn yn y grwp yn talu sylw llawn i’r dasg ac yn adrodd am eu canfyddiadau’n glir. Nid oedd llawer o’r problemau arferol ynghylch pwy oedd eu partneriaid yn broblem oherwydd natur gyffrous yr adnodd.
  • Penderfynwyd gan yr athro dosbarth y gellid ei ddefnyddio fel asesiad crynodol o’r testun Byw yn Iach ac y gallai’r disgyblion wneud cyflwyniad e.e. PowerPoint, cyflwynydd Textease ac ati.

Effaith a Chanlyniad

  • PrFont34Bin0BinSub0Frac0Def1Margin0Margin0Jc1Indent1440Lim0Lim1·Roedd y disgyblion yn awyddus i ddefnyddio’r adnodd a chawsant y modd roedd yr adnodd wedi’i osod o gymorth i allu gwneud nodiadau am eu syniadau.
  • Roedd y plant yn hyderus wrth ddefnyddio’r adnodd ac yn amlygu mwy o hyder wrth roi adborth i weddill y dosbarth yn ôl y gofyn.
  • Roedd y disgyblion yn ymwneud â’r gwaith ac roedd natur gam wrth gam yr adnodd yn fuddiol.
  • Roedd bechgyn yn defnyddio’r adnodd yn hyderus iawn. Mewn gweithgareddau blaenorol, nid oedd pawb wedi bod mor awyddus i drafod eu syniadau a’u canfyddiadau heb gymorth yr adnodd.
  • Roedd yr athro a gyflwynodd y wers o’r farn ei fod yn adnodd defnyddiol i helpu disgyblion oedd yn fwy amharod, yn enwedig pan oeddent wedi’u grwpio neu eu paru gyda disgyblion mwy galluog.

Adborth gan y Dysgwr

Roedd hi’n dda trafod yr hyn a wnaethon ni gyda phartner cyn ein bod yn siarad.’

‘Fe ddefnyddion ni ein nodiadau i’n helpu ni siarad am y bwydydd gwahanol.’

‘Fe helpodd fi i siarad amdano gyda fy mhartner ac ro’n ni’n gallu gwneud nodiadau.’

Adnoddau Eraill

Activ Inspire/Primary i gymryd  lluniau sgrin o syniadau/nodiadau’r disgyblion.