#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Grymoedd

Grymoedd

Prif Ffocysau: Sgiliau Llythrennedd,
Ffocysau Pellach: Asesiad Cyfoedion, DMaAGD, Cyflawniad Bechgyn,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Adnodd ardderchog i addysgu cysyniadau anodd yn enwedig Cyflymder Terfynol.

Ceir yr adran hon rhwng sleidiau 25 a 28 yn y set o sleidiau gwyrdd. Mae sleid 25 yn gyfres ffantastig o animeiddiadau gwirioneddol glir i ddangos cyfnodau gwahanol o ran cwymp parasiwtydd, ond oedir pob cyfnod ar y dechrau i ganiatáu i’r dysgwyr edrych ar y sefyllfa a rhagfynegi beth fydd yn digwydd i’r grymoedd - hyn gyda chymorth cwestiynau treiddgar ar y sleidiau. Felly, gadewais i’r dysgwyr chwarae gyda’r animeiddiadau mewn grwpiau o ddau neu dri ar liniadur yn gyntaf ac yna galw am eu sylw i gasglu rhywfaint o adborth ar y bwrdd. Roedd y naid ben rhyngweithiol a adeiladwyd yn yr adnodd yn ddefnyddiol iawn i ganiatáu i’r dysgwyr ddangos eu hymatebion, ond ar ôl trafod ychydig ar sleidiau unigol byddwn yn codi’r esboniad drwy glicio ar y botwm ar y sleid a byddwn yn gofyn i rai o’r disgyblion gymharu esboniad eu cyfoedion gyda’r un ar y bwrdd a rhoddi adborth. Roedd hwn yn ymarfer defnyddiol i annog Asesiad Cyfoedion a datblygu Sgiliau Llythrennedd. Ar sleidiau 27 a 28 ceir dau weithgaredd tebyg sydd wirioneddol effeithiol wrth ddatblygu dealltwriaeth, yn ogystal â Sgiliau Llythrennedd. Mae sleid 27 yn fwy addas i ddysgwyr llai hyderus ac mae sleid 28 yn dda i herio dysgwyr mwy galluog a thalentog. Gemau dosbarthu yw’r rhain ac yn y ddau achos gall y dysgwyr gymysgu pob set o gardiau hyd nes bod y gosodiadau yn cydweddu â chyfnod cywir cwymp. Maent yn gweithio’n eithaf da gyda grwpiau bychain o ddysgwyr sy’n gweithio ar yr un cyfrifiadur personol, ond fe ddefnyddiais i nhw fel gemau dosbarth cyfan trwy argraffu llunsgrin o’r gêm a thrwy dorri cyfnodau’r cwymp a’r gosodiadau yn gardiau unigol. Yna, fe roddais bob cerdyn i ddysgwr ac roedd yn rhaid iddynt ddod o hyd i’w partner. Roedd hi’n ddiddorol iawn defnyddio sleid 28 yn y modd hwn. Mewn gwirionedd, mae’r sleid hon yn cynnwys gosodiadau a chyfnodau anghywir sydd wedi cael eu cynnwys i herio camsyniadau’r dysgwyr, ond dywedais wrth fy nisgyblion hyd yn oed os oeddent yn credu bod eu gosodiad yn anghywir, bod yn rhaid iddynt geisio dod o hyd i bartner a’u darbwyllo gyda chymaint o berswâd a phosibl (dadleuon gwyddonol wrth reswm) mai nhw oedd eu cerdyn cydweddu, neu byddent yn cael eu hunain heb bartner. Gweithiodd hyn yn dda iawn, oherwydd fe amlygodd gamsyniadau ac arwain at drafodaethau ardderchog ynghylch Ffiseg Cyflymder Terfynol.

Effaith a Chanlyniad

  • PrFont34Bin0BinSub0Frac0Def1Margin0Margin0Jc1Indent1440Lim0Lim1Roedd animeiddiadau cyfnodau’r cwymp yn ddefnyddiol iawn wrth ddatblygu Sgiliau Llythrennedd ac yn caniatáu i’r dysgwyr ddeall y derminoleg a gysylltir â Chyflymder Terfynol.
  • AGD ac Asesiad Cyfoedion oedd prif nodweddion y gweithgareddau. Roedd rhoi cyfleoedd i ddysgwyr drafod a rhoi adborth ar gyfraniadau ei gilydd yn helpu nifer o ddisgyblion weld lle'r oedd eu dehongliadau nhw o ddigwyddiadau yn anghywir. Ystyriwyd bod cael cyfoedion yn asesu ac yn cynghori yn llai bygythiol na chael yr un adborth oddi wrth eu hathro.
  • Cynorthwyodd y gemau cardiau cymysg nifer o fechgyn i ddeall y cysyniadau haniaethol hyn yn fwy clir, oherwydd roedd cyfnodau cwymp a’r wybodaeth oedd eu hangen arnynt wedi’u torri’n ddarnau llai a mwy     hylaw. Roedd hyn yn caniatáu i’r rhan fwyaf o fechgyn gymryd rhan yn y gêm ac ymwneud â hi oherwydd yr ymdeimlad o gystadleuaeth gyda thimau eraill.

Adborth gan y Dysgwr

“Mae ‘Dyn Ffiseg yn syrthio yn hawdd iawn i’w ddeall, oherwydd mae gennych amser i feddwl ac os byddwch yn cael anhawster mae’r animeiddiad yn dangos beth sy’n digwydd i’r grymoedd”

“Mae’n hyfryd dysgu trwy gêm! Mwy o hwyl na darllen llawer o nodiadau o lyfr mewn gwirionedd!”

Adnoddau eraill

Siswrn, argraffydd, lamineiddiwr.

Gwersi a Ddysgwyd

Roeddwn wedi defnyddio dull tebyg gyda ffenomena ffisegol eraill sy’n dilyn dilyniant o ddigwyddiadau, ond mae hwn yn cynnig ei hun yn dda iawn i’r dull yma. Yr unig anhawster oedd petawn eisiau pob cyfnod a gosodiad o sleid 28 roedd yn rhaid i mi wneud mwy nag un cyfuniad a’u hargraffu, oherwydd mae mwy o gyfnodau a gosodiadau nag a ellir eu ffitio yn y gweithgaredd. Digwydd hyn oherwydd bod rhai ohonynt yn fwriadol anghywir ac mae’n rhaid i’r plant adnabod y rhain.