#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Llifogydd yng Nghymru

Llifogydd yng Nghymru

Prif Ffocysau: Cwricwlwm Cymreig ,
Ffocysau Pellach: Arfer myfyriol, DMaAGD, Sgiliau Rhifedd,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Defnyddiwyd yr adnodd fel rhan o destun ar ein hardal leol a ‘Daearyddiaeth yn y Newyddion’.

Cyflwynwyd y dosbarth i ardal yng Nghymru a oedd wedi dioddef llifogydd, a’r effaith ar y gymuned leol. Gan ddefnyddio adnodd Asiantaeth yr Amgylchedd ar NGfL Cymru, cymharodd y disgyblion eu hardal eu hunain a phosibilrwydd o lifogydd yn ogystal â’r hyn y byddai’r llifogydd yn effeithio arno, a sut byddent yn ymateb ac addasu.

Effaith a Chanlyniad

Rhoddodd y gweithgaredd hwn gyfle ardderchog i’m dosbarth ddechrau archwilio materion sy’n wynebu pobl yng Nghymru heddiw wrth i ni barhau i ganolbwyntio ar waith yn ein hardal leol.

Cyfrannodd y gwaith hwn tuag at ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol.

Rhoddodd y gweithgaredd hwn ddigon o gyfle i ddefnyddio’r hyn yr oeddent wedi’i ddysgu i fyfyrio ar sefyllfaoedd yn eu rhan nhw o Gymru.

Adnoddau Eraill

Fersiynau o weithgareddau Llyfr Nodiadau SMART

Gwersi a Ddysgwyd

Ar ôl myfyrio, mae angen i mi ymestyn y gweithgaredd hwn trwy ddod o hyd i luniau o leoliadau gwirioneddol neu arfaethedig eraill yn y Byd Ehangach. Wedyn, gallaf rannu’r dosbarth yn grwpiau a rhoi lleoliad i bob un ei asesu o ran gweithredu a’r eitemau sydd ar gael ar gyfer pecyn llifogydd – a oes pethau fel fflocholeuadau batri ar gael i bawb?  A fyddai colli trydan yn broblem i bawb?