#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Cardiau Fflach Adnoddau Ynni

Cardiau Fflach Adnoddau Ynni

Prif Ffocysau: Sgiliau Llythrennedd,
Ffocysau Pellach: Arfer myfyriol, Dysgu Estynedig, Asesiad Cyfoedion, DMaAGD, Cyflawniad Bechgyn, Dysgu wedi’i Bersonoli,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Defnyddiwyd cardiau fflach gwybodaeth GCaD Cymru ar Adnoddau Ynni Adnewyddol i greu cardiau fflach( gan ddefnyddio Cardiau Fflach MS) i brofi dealltwriaeth eu cyfoedion  ynghylch nodweddion adnoddau ynni adnewyddol gwahanol.

Effaith a Chanlyniad

  • Fe wnaeth y disgyblion fwynhau’r gweithgaredd gan werthfawrogi’r effaith y gall adnoddau ynni adnewyddol ei gael ar ein planed.
  • Dangosodd y disgyblion y gallu i weithio’n annibynnol. Roedd adnoddau GCaD Cymru yn ddefnyddiol iawn o ran cynnig ffynonellau gwybodaeth dibynadwy a diddorol er mwyn seilio eu cardiau fflach arnynt.
  • Roedd y disgyblion yn ymroi llawer mwy i’w haddysg gan gymryd cyfrifoldeb dros broses ddysgu eraill. A dweud y gwir, cynhyrchwyd adnoddau ganddynt oedd yn declynnau adolygu effeithiol hyd yn oed ar gyfer myfyrwyr o ddosbarthiadau eraill.
  • Wrth orfod canolbwyntio ar ddarnau unigo o wybodaeth yr oedd angen iddynt i ymchwilio iddynt o’r testun, roedd hyn yn fodd i’r disgyblion ddatblygu sgiliau dadansoddi a sgiliau llythrennedd pwysig.

Adborth gan y Dysgwr

Wnes i fwynhau chwarae hefo’r cardiau yn arw gan fy mod i yn gallu curo’r grwpiau eraill ac fe sgorion ni 100% mewn un gyfres!”

“Roedd yr wybodaeth ar y taflenni ynni yn hawdd iawn i’w deal ac yn rhoi llawer o ffeithiau i ni ddysgu am adnoddau ynni.”.

“Roedd yn weithgaredd da a hwyliog, ac fe allai ddefnyddio’r cardiau Fflach hefo pynciau eraill rwan a bydd hyn yn help i mi adolygu!”

Adnoddau Eraill

Cardiau Fflach Microsoft

Gwersi a Ddysgwyd

Un wers a ddysgais oedd y ffaith bod angen atgoffa’r disgyblion bob hyn a hyn am yr angen i ysgrifennu atebion penodol iawn o’r testunau a ddarparwyd ar gyfer y cardiau fflach gan mai dim ond atebion llawn sydd wedi’u teipio yn y blwch testun gaiff ei gydnabod fel ateb cywir. Y dewis arall fyddai gofyn i’r plant i drafod yr ateb yn eu grwp ac yna troi’r cerdyn drosodd a rhoi tic i’w hunain os yw eu hateb hwy yn debyg i’r un ar y cerdyn.