
Elfennau, Cyfansoddion a Chymysgeddau
Ffocysau Pellach: Asesiad Cyfoedion, DMaAGD, Dysgu wedi’i Bersonoli,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Defnyddiodd ein disgyblion Blwyddyn 7 gemau rhyngweithiol eChalk yn ymwneud ag elfennau, cyfansoddion a chymysgeddau er mwyn dysgu am eu nodweddion.
Defnyddiwyd yr adnoddau Elfennau, Cyfansoddion a Chymysgeddau ac Adnabod Elfennau, Cyfansoddion a Chymysgeddau sydd i’w canfod ar wefan Echalk yn Gymraeg. Yna, defnyddiwyd teclyn plygio mewn Plex ar Powerpoint i greu cyflwyniadau diddorol ar dri sylwedd o’u dewis eu hunain. Roed defnyddio PPTplex yn caniatáu iddynt ddangos cyfansoddiad mewnol y sylwedd a chyflwyno’r pwnc mewn ffordd fwy apelgar.
Effaith a Chanlyniad
- Fe wnaeth y disgyblion fwynhau’r gweithgaredd a deall y gwahaniaethau rhwng elfennau, cyfansoddion a chymysgeddau.
- Roedd modd i’r disgyblion ymchwilio i’w pynciau yn fwy annibynnol gan eu bod wedi derbyn gwybodaeth ddibynadwy a pherthnasol ar y pwnc trwy ddefnyddio adnoddau eChalk.
- Roedd bechgyn yn benodol yn ymroi cymaint mwy i bethau trwy gyfrwng y gweithgaredd didoli gan greu diagramau moleciwlaidd defnyddiol er mwyn helpu’r broses o ddeall y pynciau a astudiwyd.
- Gwelwyd gwelliant yn sgiliau cyfathrebu dysgwyr gan eu bod yn defnyddio teclyn pwerus iawn gyda’r PPTplex oedd yn fodd iddynt weld mân fanylion y sylwedd mewn ffordd broffesiynol iawn.
Adborth gan y Dysgwr
Roedd chwarae’r gêm ar-lein yn hwyl gan fy mod yn gwybod tipyn go lew o’r atebion a dysgu pethau newydd ar yr un pryd!
Pan ddangosodd Dr Williams y teclyn PowerPoint, ron i’n meddwl ei fod yn anodd iawn, ond roedd yn hawdd ac fe gawson ni lot o hwyl wrth ei wneud o.
Wnes i fwynhau defnyddio PPTPlex i gyflwyno ein prosiect gan ei fod o’n wahanol iawn i gyflwyniadau PowerPoint arferol- roedd yn wahanol ac yn cool iawn!
Adnoddau Eraill
Gwefannau eChalk a GCaD Cymru a Microsoft PowerPoint 2007 hefo teclyn PPTplex .
Gwersi a Ddysgwyd
Mae cael meddalwedd sy’n caniatáu imi ddangos manylion ar ddyfnderau “zoom” gwahanol yn ddefnyddiol iawn mewn gwyddoniaeth ac rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio PPTplex mewn prosiectau eraill hefyd. Dim ond un neu ddau o sesiynau tiwtorial fideo oedd eu hangen i ddeall sut mae defnyddio PPTpex ac fe welais ar eu blog bod modd rheoli’r cyflwyniad gyda Wii-mote. Mi fyddai’n ceisio defnyddio’r dull hwn gyda fy nosbarthiadau y tro nesaf i gynyddu lefelau ymroi'r disgyblion hyd yn oed ymhellach.