#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Sut newidiodd Edward yr Eglwysi?

Sut newidiodd Edward yr Eglwysi?

Prif Ffocysau: DMaAGD,
Ffocysau Pellach: Cynhwysol, Cyflawniad Bechgyn, Asesiad Cyfoedion, Dysgu wedi’i Bersonoli,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Gweithgaredd cychwynnol estynedig a gweithgaredd sgiliau meddwl cyn astudio newidiadau crefyddol yn ystod teyrnasiad Edward VI.

Roedd disgyblion yn astudio newid crefyddol a gwrthdaro yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae’r adnodd yn edrych ar newid crefyddol yn ystod teyrnasiad Edward ac yn gofyn iddynt ystyried a oedd newidiadau yn rhai amlwg neu’n rhai nas gwelwyd.

Wrth ddefnyddio’r adnodd roeddwn eisiau herio’r disgyblion i feddwl am ddysgu blaenorol a’i gymhwyso i’r gweithgaredd hwn. Hefyd, roeddwn eisiau defnyddio gweithgaredd heriol ac ysgogol i ennyn diddordeb y disgyblion, yn arbennig y bechgyn, mewn deunydd oedd yn heriol.

Roedd hwn yn weithgaredd lle roedd y bechgyn yn hynod awyddus i ymwneud ag ef oherwydd ei fod yn caniatáu i ddisgyblion ddod at y bwrdd gwyn rhyngweithiol i gyflawni amryfal weithrediadau. Roedd hefyd yn golygu bod disgyblion oedd ag anghenion arbennig ac anghenion cymhleth yn ymwneud â’r gwaith. Cafwyd cynnydd yng nghyfranogiad bechgyn gan fod y gweithgaredd yn annog disgyblion i gydweithio. Roedd y gweithgaredd hefyd yn caniatáu i ddisgyblion fel grwp adolygu a newid atebion gan fod y swyddogaeth sbardun yn y gweithgaredd yn caniatáu i’r atebion a roddwyd cael eu hadolygu a’u newid. Roedd hefyd yn rhoi annibyniaeth i ddisgyblion gan fod botwm swyddogaeth oedd yn caniatáu i ateb cywir gael ei roi.

Defnyddiodd y disgyblion werslyfr wedyn i astudio newidiadau crefyddol yn ystod teyrnasiad Edward mewn mwy o fanylder.

Defnyddiwyd y drydedd sleid gyda’r gweithgaredd sbardun fel gweithgaredd cychwynnol yn y wers nesaf i wirio ac atgyfnerthu dysgu blaenorol.

Effaith a Chanlyniad

  • Cafodd y gweithgaredd hwn ei ddefnyddio fel AGD gan fod yn rhaid i ddisgyblion gymhwyso gwybodaeth flaenorol am newidiadau crefyddol yn yr unfed ganrif ar bymtheg a chan eu bod yn gallu gwirio am fylchau yn eu gwybodaeth. Roedd y gweithgaredd hefyd yn caniatáu ar gyfer datblygiad pellach o ran gwybodaeth.
  • Gwelwyd gwelliant o ran diddordeb disgyblion a’u gallu i ganolbwyntio o ddefnyddio’r adnodd hwn ac felly arweiniodd hyn at ddatblygiad sgiliau meddwl a sgiliau datrys problemau.
  • Roedd y defnydd o adnoddau gweledol mwy diddorol a’r defnydd o adnoddau rhyngweithiol yn annog mwy o gyfranogiad o du’r bechgyn yn y dosbarth, yn enwedig oherwydd eu bod yn gallu dod at y bwrdd rhyngweithiol. Fe dalodd hyn ar ei ganfed hefyd gan fod ansawdd y gwaith a gyflwynwyd gan rai o’r bechgyn wedi gwella, tra roeddent yn llawer mwy parod i ymwneud â’r broses adolygu yn y wers ganlynol.
  • Gwellwyd ar gynhwysiant gan fod y disgybl wrth y bwrdd yn dibynnu ar ddisgyblion eraill am gymorth i gyflwyno’r atebion cywir, tra bo disgyblion yn cael eu hannog i gael barn cymaint o ddisgyblion â phosibl.
  • Roedd disgyblion oedd ag anghenion arbennig ac anghenion cymhleth yn ymwneud yn weithredol yn ystod y gweithgaredd a hefyd wrth gwblhau gwaith dosbarth mwy confensiynol.
  • Nid oedd angen addasu’r gweithgaredd ac felly roedd yn hygyrch i staff eraill o fewn yr adran nad oedd eu Technoleg Gwybodaeth mor gryf.
  • Rhoddwyd hwb i ddysgu annibynnol gan fod disgyblion yn gallu cydweithio gydag ymwneud yr athro dosbarth.
  • Roedd disgyblion yn gwrando’n fwy astud ar eu cyfoedion gan fod cydweithio a chynorthwyo yn cael eu hannog pan oedd disgyblion yn ymwneud â gweithgareddau bwrdd gwyn rhyngweithiol. Roedd disgyblion yn gofyn i’w cyfoedion am gyngor ac roeddent yn weithredol yn ceisio barn cymaint o ddisgyblion â phosibl. Roedd disgyblion yn gallu cymryd eu tro yn haws ac roedd y rhai wrth y bwrdd rhyngweithiol yn mwynhau cymryd arnynt rôl yr athro. Roedd disgyblion yn dangos mwy o barch at eraill ac roeddent yn barod i aros eu tro wrth ateb cwestiynau gan wybod y byddai galw am eu barn nhw.

Adborth gan y Dysgwr

'Fe wnes i fwynhau’r gweithgaredd gan ei fod yn caniatáu i mi ymwneud â’r wers oherwydd bod barn llawer o ddisgyblion yn cael gwrandawiad.’

‘Ar ôl hyn roeddwn yn deall y gwahaniaethau rhwng eglwysi Catholig ac eglwysi Protestannaidd.’

Adnoddau Eraill

Gwers lyfr ysgol

Gwersi a Ddysgwyd

Gellir ymddiried mewn disgyblion i redeg gweithgareddau a gall hyn arwain at ymwneud mwy o ddisgyblion ac yn enwedig bechgyn a’r rhai sydd ag anghenion arbennig ac anghenion cymhleth.