
Eddiogelwch
Ffocysau Pellach: Sgiliau Rhifedd,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Mae dysgu e-ddioglewch nawr yn statudol o fewn y Cwricwlwm TGCh a defnyddiwyd y gweithgaredd ‘Creu Proffil Addas’ fel rhan o uned o waith yn fwy yn yr ysgol ar e-ddioglewch. Mae pedair uned arall o waith o fewn y pecyn hwn hefyd.
Yn ogystal, mae 'na ddolen gyswllt i nifer o wefannau defnyddiol. Mae’r gweithgareddau yn cwmpasu 2 neu 3 wers. Defnyddiwyd y gweithgaredd gyda Blwyddyn 6. Defnyddiais yr adnoddau o fewn y gweithgaredd gan addasu beth oedd angen i’r dosbarth. Roedd taflen gynllunio wedi ei gwblhau hefyd. Roedd hyn yn hawdd i’w wneud gan fod y cyflwyniad yn ActivInspire a’r taflenni gwaith yn rhaglen Word. Roedd hi’n wers ymarferol iawn.
Cyflwynwyd y targedau i’r disgyblion ar ddechrau’r wers a chyfeiriwyd at y meini prawf llwyddiant y byddwn yn ail-ymweld â nhw ar ddiwedd y wers.
Fe wnes i gyfeirio’n gyson at y targedau hyn yn ystod y wers a rhoi pwyslais cyson hefyd ar sut roedden nhw wedi dysgu.
Arddangoswyd geirfa’n ddwyieithog yn y dosbarth er mwyn hybu sgiliau dwyieithrwydd.
Gofynnais i barau yn y dosbarth i greu map meddwl o’u defnydd nhw o’r we. Bu rhai’n gweithio ar raglen ‘Free Mind’( meddalwedd sydd ar gael i’w lawr lwytho o’r We am ddim) i gyflwyno’u syniadau. Roedden ni wedi cael pecyn o ipads hefyd i dreialu yn y dosbarth ac felly lawr lwythais i raglen mapiau meddwl ar y rheini hefyd. Fe wnaeth y gweithgaredd hwn symbylu llawer o gyfathrebu rhwng y disgyblion i gyd gan ei fod yn fyd cyfarwydd iddynt. Roedd hyn yn enghraifft dda o ddisgyblion yn dysgu wrth ei gilydd. Wrth iddyn nhw gyflwyno’u mapiau meddwl i’r dosbarth, roeddwn i’n gallu asesu eu dealltwriaeth a’u sgiliau ac yn gallu addasu’r gweithgareddau canlynol yn ôl yr angen. Arddangoswyd y mapiau meddwl yn y dosbarth gan annog y disgyblion dros gyfres o wersi i ychwanegu syniadau pellach. I gloi’r adran hon fe wnes i ofyn cwestiynau pellwch am eu defnydd o’r we (amlder/hoffter ac ati) ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol. Defnyddion ni set ActivVote lle gosodir cwestiynau ar y bwrdd yn rhaglen ActivInspire ac mae’r disgyblion yn defnyddio teclyn i bleidleisio. Mae’n symbylu’r disgyblion i ffocysu ac yn ennyn perchnogaeth o’u gwaith. (Gall bwrdd gwyn unigol weithio’n dda hefyd.) Mae’r rhaglen wedi yn graffio’r canlyniadau. Mae trafod y canlyniadau ar ffurf graff yn gyfle da i drafod sgiliau rhifedd.
Defnyddiais y ddolen gyswllt ar wefan GCaD Cymru i fynd at wefan Thinuknow er mwyn gwylio fideo "Know Your Friends, with Josh & Sue" sy’n cyflwyno sut i ddisgyblion gadw’u hunain yn ddiogel ar lein. (Mae angen cofrestru o flaen llaw ar y wefan hon). Wrth ail-wylio’r fideo, gofynnwyd iddynt gofnodi’r defnydd diogel ac anniogel a arsylwyd arnynt. Roedd yn gyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a chyd-weithio rhwng parau. Adroddwyd y syniadau i’r dosbarth gan roi amser i drafod paham. Roedden nhw’n cofnodi’n ddwyieithog ac roedd cyfle i gyfeirio nôl at yr eirfa ar arddangoswyd yn y dosbarth.
Er mwyn trafod gwybodaeth bersonol yn fwy manwl rhoddais gyfres o gwestiynau ar y bwrdd gwyn a’r dasg oedd pleidleisio os oedd y darnau o wybodaeth yn ‘bersonol’ neu’n ‘amhersonol’. Eto roeddwn yn gallu asesu’r dysgu wrth ddadansoddi’r canlyniadau ar ffurf graffiau.
Aethon ni edrych ar enghreifftiau o broffiliau ar y bwrdd gwyn a thrafod a oeddent yn ddiogel ai peidio. Rhoddwyd tasg iddynt wedyn i adeiladu eu proffiliau eu hunain. Roedd rhai yn gweithio yn cwblhau proffil ar ‘Cyber Café - Personal Online Space’ a’r gweddill ar bapur. Wrth adrodd yn ôl, gofynnais Iddynt nodi ar bapur, un peth fydden nhw’n gwneud yn wahanol o hyn ymlaen ac adolygwyd y targedau.
Y dasg derfynol oedd i grwpiau baratoi cyflwyniad yn cynnwys y negeseuon pwysig roedden nhw wedi ei ddysgu i’w arddangos i weddill yr ysgol. Cawson nhw ddewis y dull cyflwyno er mwyn datblygu sgiliau annibynnol. Dewisodd rai cyflwyniad ‘Keynote/PowerPoint’, creu Podcast, gwneud hysbyseb byr ac animeiddiad yn defnyddio llythrennau plastig i gyflwyno rheolau creu proffil diogel. Gellid fod wedi paratoi taflen wybodaeth i gylchlythyr yr ysgol, adnodd ar gyfer gwefan yr ysgol ac ati.
Effaith a Chanlyniad
Roedd Asesu ar gyfer dysgu yn amlwg o’r dechrau i’r diwedd. Defnyddiais y map meddwl i asesu eu dysgu’n barod. Roedd cyfeiriad cyson at y targedau dysgu drwy’r wers a thrafodwyd y meini prawf llwyddiant ar ddiwedd y wers. Wrth ofyn a dadansoddi cwestiynau wrth bleidleisio roedd modd delio gyda chysyniadau neu gamddealltwriaeth.
Roedd sgiliau Cyfathrebu’n ffocws amlwg yn y wers gan fod y disgyblion wedi gweithio mewn parau neu grwpiau, yn trafod syniadau a gwneud penderfyniadau. Roeddwn I hefyd yn eu hannog i ddefnyddio geirfa newydd. Roedd sgiliau dwyieithrwydd, dysgu annibynnol a sgiliau darllen a deall yn cael eu datblygu wrth iddyn nhw greu proffil ar y we. Wrth ddadansoddi data llwyddwyd i ymdrin â sgiliau rhifedd ar sawl adeg gyda’r disgyblion yn gweld patrymau yn y data Roedd modd gofyn cwestiynau ymestynnol: Faint o..? Faint yn fwy..? Faint yn llai..? Roedd y disgyblion yn llawer mwy ymwybodol o reolau e-ddioglewch ac aethon nhw a’r proffiliau adref gyda nhw er mwyn eu rhannu gyda’u rhieni.
Adborth gan y Dysgwr
‘Ro ni’n gwbod llawero bethau yn barod am y we, ond dysges llawer mwy am beth ddylen i ddim rhannu da pobl eraill.’
‘Wnes i joio gweithio fel grwp i baratoi cyflwyniad i weddill yr ysgol. Wedi i ni ddysgu pethe newydd, wedyn roedden ni’n dysgu plant eraill.’
‘Bydda i’n fwy gofalus ar y wê ond hefyd pan fydda i’n rhannu rhif ffôn symudol hefyd a derbyn plant fel ffrindiau ar Club Penguin.’
Adnoddau Eraill
Cyflwyniad ychwanegol i’r bwrdd gwyn i gyd-fynd â’r adnodd gwreiddiol, fideo "Know Your Friends, with Josh & Sue" o wefan Thinkuknow, targedau a geirfa.
Gwersi a Ddysgwyd
Angen treulio fwy o amser yn ail-adrodd y rheolau a ddysgwyd neu gadw cofnod ar y bwrdd wrth i’r wers fynd yn ei blaen. Byddai’r disgyblion wedyn yn gallu defnyddio’r cofnod hwn wrth baratoi cyflwyniad. Byddai angen llai o amser cynllunio. Dangos fwy o enghreifftiau o broffiliau anghywir iddyn nhw sylwi beth sydd o’i le.