#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Dimensiynau

Dimensiynau

Prif Ffocysau: Cyflawniad Bechgyn,
Ffocysau Pellach: Sgiliau Rhifedd, DMaAGD, Cynhwysol, Asesiad Cyfoedion,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Adnodd ar gyfer gweithgaredd cychwynnol, y prif weithgaredd a’r gweithgaredd cloi mewn gwers ar ddimensiynau, a osodwyd mewn ystafell ddosbarth gyda bwrdd gwyn rhyngweithiol.

  • Fe wnaeth y gweithgareddau chwarae rhan yn natblygiad sgiliau dysgu, sgiliau meddwl a chyfathrebu’r disgyblion.
  • Gwelwyd gwelliant amlwg o ran ymwneud bechgyn oherwydd adnoddau mwy gweledol ac oherwydd eu bod yn gallu ‘codi’ a chael tro ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol.
  • Roedd y gweithgareddau yn ennyn ymrwymiad ac ymwneud disgyblion ac yn helpu i gynnal eu sylw ar eu dysgu.
  • Roedd y gweithgareddau’n hyblyg a gellid eu haddasu i amrywiaeth o sefyllfaoedd gweithio. Roeddent yn darparu cyfleoedd ar gyfer trafod ac yn gosod nodau tymor byr i ddisgyblion fynd yn eu blaen at ddealltwriaeth lawn o ddimensiynau a’u fformiwlâu.
  • Defnyddiwyd asesiad cyfoedion yn effeithiol yn ystod y gweithgaredd a dysgwyd disgyblion i fod yn sensitif ac i ddefnyddio beirniadaeth adeiladol.
  • Roedd disgyblion yn gwrando’n fwy astud pan oedd eraill yn ymwneud â gweithgareddau bwrdd gwyn rhyngweithiol ac felly roeddent yn dysgu mwy oddi wrth eu cyfoedion. Roeddent yn cymryd eu tro’n haws ac yn dangos mwy o barch at eraill, gan gymeradwyo’n aml i ddathlu llwyddiannau ei gilydd.

Effaith a Chanlyniad

  • Roedd disgyblion yn ymwneud â’r gwaith ac yn cael eu cymell i weithio. Roedd disgyblion yn frwdfrydig ac yn mwynhau’r cyfle i fod yn gyfranogion gweithredol yn y wers.
  • Roedd cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau meddwl a’u sgiliau cyfathrebu.     
  • Roedd y disgyblion yn mwynhau’r cyfle i weithio mewn grwpiau bychain. Roeddent yn cydweithio’n effeithiol, yn gwrando ar farn a safbwyntiau ei gilydd.
  • Roedd hyblygrwydd y gweithgareddau yn golygu eu bod yn gallu cael eu haddasu’n hawdd ar gyfer addysgu unigol, pâr, grwp neu ddosbarth cyfan.
  • Roedd agweddau gweledol a chinesthetig yr adnodd yn caniatáu disgyblion gynnal eu sylw ar eu dysgu. Roedd gwelliant o ran ymwneud bechgyn oherwydd roeddent yn gallu ‘codi’ a chael tro ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol.                   
  • Fe wnaeth y gweithgareddau byr a chynyddol osod nodau tymor byr i ddisgyblion eu cyflawni. Roedd hyn yn apelio at nifer o’r bechgyn yn y dosbarth.
  • Roedd disgyblion yn gwrando’n astud ar y disgybl oedd yn ymwneud â gweithgareddau’r bwrdd gwyn rhyngweithiol.
  • Roedd disgyblion yn trafod, egluro a herio atebion, yn cynnal ei gilydd yn eu dysgu.           
  • Roedd y defnydd o fyrddau gwyn bach yn sicrhau bod pob disgybl yn gallu cymryd rhan ac roedd ateb pob disgybl yn cael ei ystyried cyn penderfynu ar atebion terfynol y dosbarth yn y gweithgaredd cloi.

Adborth gan y Dysgwr

Roedd disgyblion yn eiddgar i gymryd rhan yn y gweithgareddau a mwynhaodd nifer y cyfle i ddefnyddio’r bwrdd gwyn rhyngweithiol oedd ar flaen y dosbarth.

Adnoddau Eraill

Papur A3. Pennau a byrddau gwyn bach. Gwerslyfrau. Taflenni cwestiynau arholiad.

Gwersi a Ddysgwyd

Mae’r disgyblion yn frwdfrydig iawn ac wedi eu cymell i weithio lle ceir cyfleoedd i ddefnyddio TGCh