
Dydd a Nos (Canolfan Ymchwil Gwyddoniaeth a Thechnoleg Cynradd - CRIPSAT)
Ffocysau Pellach: Sgiliau Llythrennedd, Cwricwlwm Cymreig , Asesiad Cyfoedion,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Defnyddiwyd yr adnodd gan ddosbarth ym Mlwyddyn 5 fel rhan o ragarweiniad i 'Y Byd o fewn Y Gofod'.
Roedd yr athro yn dymuno sefydlu lefel dealltwriaeth y plant ac fe ddefnyddiodd y cwestiynau cudd o fewn yr adnodd i ddarganfod hyn.
- Fideos - Drwy ddefnydd pecyn cymorth yr adnodd, roedd yr athro yn medru anodi'r geiriau allweddol a ddefnyddiwyd gan y disgyblion wrth iddynt wylio'r fideos yn Rhan 1. Gofynnodd yr athro, ‘Gyda pwy ydych chi'n cytuno?’ Yna, gofynnodd i'r disgyblion drafod hyn gyda'u partner cyn adrodd yn ôl i weddill y dosbarth.
- Grid GED – cynhyrchodd y disgyblion eu grid GED eu hunain yn eu llyfrau, ond fe sefydlwyd rai syniadau i'r dosbarth cael defnyddio drwy gymorth sesiwn holi ac ateb fer. Anodwyd y syniadau yn syth i'r adnodd grid GEN gan yr athro.
- Animeiddio – Cafodd yr animeiddiadau dderbyniad gwresog gan y disgyblion ac fe gymron nhw nodiadau fel partneriaid meddwl yn yr ystafell TGCh. Roedd angen mwy o anogaeth ar rai disgyblion i allu cymryd nodiadau. Rhoddwyd pwyslais ar gymryd nodiadau byrion er mwyn adrodd yn ôl yn hwyrach i weddill y dosbarth.
- Cwestiynau – ‘Sut byddech yn diffinio diwrnod? ‘Sut byddech yn diffinio blwyddyn?’ yw'r cwestiynau ysgogol a ddefnyddir i arwain y disgyblion. Yma, defnyddiodd y disgyblion daflen waith i greu eu diffiniadau eu hunain. Wedi ychydig funudau, cyfeiriodd yr athro at y bwrdd gwyn rhyngweithiol a darllennodd y ddau gwestiwn ysgogol i annog disgyblion llai galluog y dosbarth.
- Didoli cardiau i ddau grwp – (Cymru, Y Ddaear, Dydd, Gaeaf, Haf, Sfferig, Blwyddyn Naid, Mis, Wyth diwrnod ar hugain, Nos, Blwyddyn) Cynhaliwyd hyn yn wreiddiol fel gweithgaredd dosbarth a'i rhannu yn ddau grwp. Anogwyd y disgyblion i feddwl yn feirniadol ac i ddatblygu eu dull didoli eu hunain. Gofynnwyd i'r disgyblion ddadansoddi'r cardiau, ‘Pa batrymau gallwch ei weldŵ’ ‘Pa mor debyg yw rhai o'r geiriau?’ ‘Gallwch chi ddidoli'r geiriau mewn ffordd gwahanol?’ ‘Gallwch chi ddidoli'r geiriau i dri neu bedwar grwpŵ’
- ‘Yn eich tyb chi, beth mae'r ddelwedd yma yn ei ddangosŷ’ Gwaith grwp - Yn gychwynnol, cafodd y disgyblion anhawster gyda hwn, ond fe ganiatàwyd danfon cynrychiolydd o'r grwp i'r bwrdd gwyn rhyngweithiol er mwyn darllen ychydig o'r cwestiynau ysgogol.
- ‘Lle ar y blaned ydi gwawr a gwyll yn digwydd yn gydamserol â Chymruŵ’ Roedd agwedd ymchwiliol y cwestiwn yn arwain y disgyblion i ddatblygu eu syniadau eu hunain a chynnig dadleuon rhesymol.
- Roedd dwy dudalen ar gyfer cadw nodiadau yn fuddiol i'r disgyblion ysgrifennu'r geiriau allweddol y dymunwyd eu defnyddio wrth adrodd eu syniadau yn ôl i'r dosbarth.
Fe ail-ymwelwyd â'r grid GED yng ngweithgaredd 2 yn y sesiwn lawn ac fe ofynnwyd y cwestiwn canlynol i'r disgyblion, ‘Beth gallwch ei newid yn y grid GED nawr ein bod wedi cwblhau'r gweithgaredd?’
Fel cam nesaf, penderfynodd yr athro a'r disgyblion y byddant yn hoffi creu eu ffilmiau fideo eu hunain – yn debyg i'r rhai ar Dudalen 1 – i arddangos eu gwybodaeth.
Effaith a Chanlyniad
- Cafodd disgyblion eu hymgysylltu gan gwestiynu'r athro.
- Roedd y disgyblion yn awyddus i ddefnyddio'r adnodd ac yn cael y cynllun yn ddefnyddiol i allu cadw nodiadau ynghylch eu syniadau.
- Mae ymagwedd cam wrth gam yr adnodd yn gymorth i'r athro arwain y disgyblion, a gall yr athro ddewis defnyddio'r adnodd cyfan neu ran ohono yn ôl y galw.
Mae nifer o gyfleoedd ar gael i'r athro gwestiynu'r disgyblion drwy ddefnydd ymagweddau amrywiol sy'n cynnwys defnyddio sgiliau meddwl uwch ac is.
Adborth gan y Dysgwr
- Cafodd y disgyblion fwynhad o'r gweithgaredd.
- Roeddynt yn medru cwestiynu eu hunain yn effeithiol a datblygu eu sgiliau meddwl.
- Cawsant fwynhad o'r animeiddiadau.
Cytunodd y disgyblion eu bod yn medru datblygu cwestiynau gyda chymorth yr adnodd.
Adnoddau Eraill
Lolfa Gyfrifiadurol yn cynnwys deunaw cyfrifiadur PC Windows, deunyddiau cadw nodiadau.