
Data
Ffocysau Pellach: Sgiliau Sylfaenol, Sgiliau Rhifedd,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Defnyddiwyd y gweithgaredd Ti a Fi ar gyfer disgyblion CA 2 gan ei fod yn cynnwys adnodd addas i gadarnhau dealltwriaeth y disgyblion o ganrannau, degolion a ffracsiynau.
Mae’n gyfle iddyn nhw ddefnyddio sgiliau rhif mewn cyd-destun gwahanol yn seiliedig ar y 10 set o ddata ar y tabl yn yr adnodd hwn. Dechreuais y wers wrth ddefnyddio’r ffon hyd ar flaen y dosbarth. Gofynnais iddynt adnod lle'r oedd 100%, 50% ac ati. Yna cymharais y rhain a 10/10 ,5/10 neu ½ a’r degolion 0.5 ac 1 fel rhif cyfan. Defnyddiais y taflenni gwaith ‘Llinellau Rhif’ er mwyn datblygu eu dealltwriaeth o leoli ar y ffon hyd.
Wedi cyflwyno’r targedau a thrafod yr hyn maen nhw’n ei wybod yn barod, aethpwyd ati i roi tasgau gosod ffracsiynau, degolion a chanrannau mewn trefn.(Gweler taflenni ‘Rhoi mewn Trefn’) Wedi adrodd yn ôl a thrafod yr hyn maen nhw wedi eu dysgu’n barod, aethpwyd ati i gyflwyno’r tabl Data o weithgaredd Cyfnod Sylfaen ‘Ti a Fi’. Roeddwn i wedi creu Flipchart ‘Data’ fy hun yn cynnwys y rhestr.
Edrychwyd ar y tabl fel dosbarth gan ofyn cwestiynau cyflym er mwyn sicrhau dealltwriaeth y disgyblion. Defnyddiais yr adnodd ‘Cysyniadau Cartŵn’ i ddatblygu eu sgiliau rhif a’u sgiliau meddwl. Mae 4 gosodiad sy’n cyfeirio at y Data ond dim ond un o’r rhain sydd yn gywir. Roedden nhw’n cael amser i feddwl yn annibynnol pa un oedd yn gywir, yna’n rhannu eu penderfyniad gyda phartner ac yna trafod fel grŵp. Roeddwn i wedi gwahaniaethu’r dasg
Es ati wedyn i ddefnyddio’r cwestiynau yn y cyflwyniad i arwain y dysgu gan edrych ar ganrannau, degolion a chanrannau ar wahân
Aeth grŵp ati i edrych ar y rhestr Data o’r gweithgaredd Cyfnod Sylfaen ‘Cartrefi’ a mynd ati i ateb cwestiynau tebyg er mwyn cadarnhau eu dealltwriaeth.
Defnyddiwyd y tabl gwag yn y cyflwyniad gyda grwpiau eraill i gasglu gwybodaeth am grwpiau o ddisgyblion ar draws yr ysgol. Roedd yn gyfle da i ddatblygu eu sgiliau rhif ymhellach wrth gymharu grwpiau o ddata. Roedden nhw’n gofyn cwestiynau perthnasol, yn meddwl yn rhesymegol ac yn chwilio am batrymau. Roedden nhw’n barod iawn ar ddiwedd y wers i adolygu’r dull gweithio a gwerthuso eu dysgu a’u meddwl eu hunain.
Defnyddiais ‘Gêm y Cof’ i gloi’r wers oedd yn sialens ac yn hwyl.
Effaith a Chanlyniad
Mae’r disgyblion wedi adolygu’r targedau yn gyson yn ystod y wers ac roedd hyn yn gyfle da i drafod beth a sut roedden nhw wedi dysgu yn ogystal â’r hyn roedden nhw’n ddihyder amdano. Wrth gasglu data eu hunain yn annibynnol roedden nhw’n barod i adolygu sut wnaethon nhw gyd-weithio yn ogystal â theimlo perchnogaeth am eu gwaith.
Roedden nhw wedyn yn barod gyflwyno gwybodaeth a holi grwpiau eraill wrth gymharu data. Roedd eu sgiliau cyfathrebu wedi datblygu’n amlwg yn ystod y wers wrth ddefnyddio geirfa rhif yn ogystal â gofyn cwestiynau perthnasol a rhoi rhesymau dros ddewis eu cwestiynau.
Defnyddion nhw rifau’n hyderus mewn cyd-destun edrych ar ddata. Roedd cyfle da i adolygu a chadarnhau eu dealltwriaeth o rif ar ddechrau’r wers. Roedd yn gyfle da i fi fel athrawes i asesu eu dealltwriaeth. Cawson nhw gyfle i ddatblygu rhif wrth gasglu gwybodaeth. Wrth gynnwys degolion, ffracsiynau a chanrannau defnyddion nhw amrywiaeth o ddulliau. Buon nhw’n trafod ac esbonio eu gwaith rhif yn synhwyrol.
Adborth gan y Dysgwr
‘Dw i wedi deall yn well sut i gymharu ffracsiynau, degolion a chanrannau.’
‘Wnes i fwynhau’r wers achos roeddwn i’n gallu llwyddo i wneud llawer o’r gwaith.’
Dwi’n hoffi gweithio fel grŵp a mynd i gasglu gwybodaeth. ‘Wnaethon ni gyflwyno’r gwybodaeth ar y cyfrifadur o flaen y dosbarth.’
Adnoddau Eraill
Flipchart ’Data’, Taflen Waith ‘Llinellau Rhif’, Cysyniadau Cartŵn ar gyfer Canrannau, Ffracsiynau a Degolion, Gweithgaredd ‘Beth yw ei werth?’, Gêm y Cof, Rhestr Data ‘Ti a Fi’, Rhestr Data ‘Cartrefi’
Gwersi a Ddysgwyd
Gellid fod wedi paratoi tasgau mwy ymarferol i’r disgyblion gallu gwanaf, neu waith gyda chynorthwydd ar y ffon hyd.
Byddai modd treulio mwy o amser i ddisgyblion gyflwyno’r data ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol.