
Claen
Ffocysau Pellach: Arfer myfyriol, Sgiliau Llythrennedd, Cwricwlwm Cymreig ,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Adnodd a ddefnyddiwyd fel rhan o destun ar Gyfeillgarwch a Bwlio.
Er nad ydym yn defnyddio adnodd ‘C’mon’, roedd sawl un o’r gweithgareddau rhyngweithiol ar-lein yn parhau i fod yn berthnasol i’n gwaith yn yr ystafell ddosbarth a gellid eu gwella ymhellach trwy addasu rhai o’r gweithgareddau sgiliau meddwl sydd ar gael yn adran Arfer Da NGfL Cymru (set lawn ar gael i ddefnyddwyr cofrestredig).
Effaith a Chanlyniad
Cyfrannodd y gwaith tuag at ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol.
Gweithiodd y plant yn dda mewn grwpiau o feintiau amrywiol, gan gydweithio’n effeithiol.
Fe wnaethant gymryd eu tro yn haws, gan ddangos mwy o barch at waith plant eraill.
Cafodd y plant eu hannog i fyfyrio ar eu profiadau blaenorol eu hunain yn ystod yr ymarferion i helpu gwneud penderfyniadau yn y dyfodol.
Adnoddau Eraill
Addaswyd gweithgareddau sgiliau meddwl mewn PPT a Word.
Gwersi a Ddysgwyd
Fe wnes i addasu rhai o’r ymarferion hyn i gyd-fynd â’m cynllun gwaith presennol, ond mae’r adnodd hwn wedi fy ngwneud yn ymwybodol o adnodd ‘C’mon’ a byddaf o bosibl yn defnyddio hwn ar gyfer cynlluniau a gwersi yn y dyfodol.