#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Achos a Chanlyniad

Achos a Chanlyniad

Prif Ffocysau: DMaAGD,
Ffocysau Pellach: Dysgu Estynedig, Cynhwysol, Asesiad Cyfoedion, Cyflawniad Bechgyn, Dysgu wedi’i Bersonoli,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Gweithgaredd adolygu cyn prawf diwedd uned yn dilyn astudiaeth o'r pwnc – Prif Heriau Gwleidyddol a Chymdeithasol Unol Daleithiau'r Amerig rhwng 1910 a1929.

  • Mae angen gwybodaeth ar y disgyblion er mwyn cysylltu achosion a chanlyniadau i'r prif adrannau o fewn maes astudiaeth y pwnc hwn.
  • Wrth ddefnyddio'r adnodd, hoffwn gynnig her i'r disgyblion ddefnyddio eu gwybodaeth blaenorol i gysylltu achosion a chanlyniadau gwahanol i brif heriau gwleidyddol a chymdeithasol o fewn Unol Daleithiau'r Amerig. Fy mwriad hefyd oedd cynnig gweithgaredd heriol ac ysgogol a fyddai'n symbylu'r disgyblion i ddefnyddio'u gwybodaeth blaenorol i ddatrys problemau.
  • Roedd angen i ddisgyblion ddarganfod dau achos a phedwar canlyniad ar gyfer pob un newid. Yn bwysig, gall nifer o'r ffactorau fod yn berthnasol i fwy nag un mater, ond mewn gwirionedd roedd angen i'r disgyblion gyfyngu eu dewisiadau yn y pendraw.
  • Mae'r tasg hwn yn arbennig o addas i'r disgyblion mwyaf galluog a thalentog gan ei fod yn hybu iddynt resymu yn ogystal â'u galluogi i drafod safbwyntiau ac ysgogi trafodaethau.
  • Gweithgaredd oedd hwn lle roedd y bechgyn yn arbennig o awyddus i gymryd rhan, gan iddo alluogi disgyblion i nesu at y byrddau gwyn rhyngweithiol er mwyn gwneud defnydd o'r adnodd clicied i weddu achosion a chanlyniadau gyda heriau. Yn ogystal, gwelwyd cynnydd yng nghyfranogaeth y bechgyn wrth i'r gweithgaredd annog disgyblion i gydweithio. Golygai hyn bod y disgyblion hynny oedd ag anghenion arbennig a dwys wedi'u hymrwymo.
  • Cynigodd y disgyblion gefnogaeth dda i'w cyfoedion, gan taw hwy oedd yn gyfrifol am gynnal y gweithgaredd.

Ar ddiwedd y dasg, gofynnwyd i'r disgyblion ystyried yr hyn a ddysgwyd ganddynt a phe byddai modd defnyddio gweithgaredd tebyg i adolygu pynciau eraill a gwmpaswyd.

Effaith a Chanlyniad

  • Chwaraeodd y gweithgaredd ran sylweddol yn natblygiad sgiliau meddwl, dysgu a chyfathrebu'r disgyblion. Roedd y disgyblion yn medru datblygu cysylltiadau rhwng achos a chanlyniad yn ogystal ag ymestyn dealltwriaeth y pwnc a astudiwyd. Canlyniad y prawf ar ddiwedd yr uned oedd gweld cynnydd ym mherfformiad o'i gymharu â chanlyniadau blaenorol.
  • Roedd defnydd mwy ysgogol o'r adnoddau gweledol ynghyd â defnydd yr adnoddau rhyngweithiol yn ennyn gwell cyfranogaeth ymhlith bechgyn y dosbarth, yn enwedig o ystyried y gallent ddynesu at y bwrdd rhyngweithiol. Roedd y disgyblion hynny oedd ag anghenion arbennig a dwys wedi'u hymrwymo yn fwy gweithredol.
  • Mae'r gwaith yn cyfrannu at ddatblygiad sgiliau meddwl allweddol er mwyn cefnogi'r pwyntiau a wnaed.
  • Canlyniad defnydd y gweithgaredd oedd bod gwelliant yn ymateb a chanolbwyntio'r disgyblion a arweiniodd at ddatblygiad sgiliau meddwl a datrys problemau.
  • Roedd disgyblion yn gwrando'n fwy astud ar eu cyfoedion o ganlyniad i annogaeth cydweithio a chefnogaeth wrth i ddisgyblion ymwneud â gweithgareddau byrddau gwyn rhyngweithiol. Dangosodd y disgyblion barch ehangach i eraill, ac roeddynt yn barod i ddisgwyl eu tro wrth ateb cwestiynau tra'n ymwybodol y byddai eu barn yn cael eu hystyried.
  • Fe anogwyd dysgu annibynnol wrth i ddisgyblion allu cydweithio heb ymrwymiad yr athro dosbarth.
  • Rhoddwyd cyfle i'r disgyblion mwyaf galluog a thalentog ddatblygu eu ffyrdd o feddwl ac i gyflwyno eu syniadau drwy gysylltu ar lafar.

Doedd dim angen addasu'r gweithgaredd, ac roedd yn bosib ei ddefnyddio fel ag yr oedd, ond gellir ei ychwanegu at unrhyw gyflwyniad PowerPoint sy'n bodoli. Roedd ei weithredoldeb hefyd yn rhwydd oedd yn golygu ei fod yn hawdd i'r disgyblion gael ei ddefnyddio.

Adborth gan y Dysgwr

“Ar ddiwedd hyn oll, roeddwn yn teimlo dipyn cliriach ynghylch achosion a chanlyniadau'r newidiadau yn Unol Daleithau'r Amerig ac roeddwn yn medru defnyddio'r wybodaeth o fewn y prawf a gaethom. Gallwn weld sut gall y gweithgaredd fod o fudd i ni cyn arholiadau'r haf.

Gwersi a Ddysgwyd

Dylai disgyblion arwain y gweithgaredd a dylid eu hannog i gynnwys cynifer o ddisgyblion eraill ag sy'n bosib. Byddai gweithgaredd o'r rhyngrwyd yn ymwneud ag enwau ar hap yn syniad da. Gellir addasu'r gweithgaredd yn rhwydd i greu adnodd adolygu fyddai'n ddefnyddiol ar gyfer meysydd eraill ym maes llafur TGAU.