#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Enwi rhannau'r corff

Enwi rhannau'r corff


Ffocysau Pellach: Sgiliau Llythrennedd, Arfer myfyriol, Cynhwysol,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Adnodd i wella dysgu ac addysgu Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Byd.

Y pwnc a astudir yn yr ysgol yw 'Popeth amdanaf fi'. (Y Fi a phethau byw eraill – I adnabod ac enwi prif rannau allanol corff dynol) a gafodd ei gyfarch yn draws gwricwlaidd drwy ddefnydd Datblygiad Cynllunio (Celf, Crefft a Dylunio – i gynllunio a chreu mecanweithiau syml).

Dosbarth Blwyddyn 1 yw hwn sydd â 27 o blant yn perthyn iddo. Mae 24 o'r plant yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol, felly mae datblygiad geirfa yn bwysig.

Mewn gwers flaenorol cafodd y plant gyfle i ddylunio o gwmpas amlinellaid corff un o ddisgyblion y dosbarth. Cafodd gwahanol darnau'r corff eu henwi a'u mesur.  Defnyddiodd y plant ‘Fy Myd – Person’ i labeli corff yn unigol.  Defnyddiwyd adnodd GCaD Cymru i atgyfnerthu a chryfhau'r gwaith gyda'r dosbarth cyfan a chyflwyno'r gwaith Datblygu Creadigol o greu pyped drwy ddefnyfddio pinnau hollt i gysylltu'r breichiau a'r coesau, gan gyfeirio yn ôl at yr adnodd i sicrhau y cynhwysir holl rannau'r corff.

Roedd y sbardun weledol a ddarparwyd gan yr adnodd yn ysgogi'r plant. Darparodd yr adborth ddysgu cynorthwyol gan nad yw'n bosib lleoli'r labeli mewn mannau anghywir. Anogwyd y plant (gan yr athro) i seinio'r geiriau ac i ddyfalu beth oedd ar bob un label cyn eu lleoli. Wedi cwblhau hyn, fe wrandawyd ar y geiriau a gwelodd y plant bod saeth yn pwyntio at ran o'r corff. Roedd hyn yn cynnig  atgyfnerthiad da iddynt.

Yn ystod y sesiwn lawn, edrychodd y plant ar luniau dail ei gilydd, ac ar ffotograffau o luniau o'r corff a grëwyd y tu allan, ynghyd â modelau o bypedau.  Gwerthuswyd gwaith ei gilydd gan ddefnyddio'r dull dwy seren a dymuniad, hynny yw, dau bwynt da ac un agwedd i'w wella erbyn y tro nesaf.

Effaith a Chanlyniad

Datblygwyd ac atgyfnerthwyd geirfa'r plant mewn perthnasedd â rhannau'r corff.  Cafodd y canlyniad disgwyliedig - sef y byddai'r plant yn medru enwi rhannau allanol y corff dynol - ei gyflawni gan mwyafrif y disgyblion.  Roedd y plant hefyd yn medru darllen ac ysgrifennu enwau darnau'r corff gyda chymorth yr adnodd.

Adnoddau Eraill

Cerdyn a phinnau hollt ac ysgrifbinau a phapur lliw, siswrn.

Dail, glud

Defnyddiau 'Art Attack', labeli ar gyfer rhannau o'r corff

Gwersi a Ddysgwyd

Mae agwedd weledol, glywedol a chinaesthetig yr adnodd yn galluogi cyfranogaeth pob dysgwyr.