#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Gofal Anifeiliaid

Gofal Anifeiliaid


Ffocysau Pellach: Dysgu Estynedig, Sgiliau Hanfodol Cymru , Dysgu seiliedig ar waith,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Mewn gwers i ddangos y gwahanol opsiynau sydd ar gael ar gyfer llety mamaliaid bach. Gan ddefnyddio’r clipiau fideo i gyfeirio atynt, fe wnaethant drafod pa glefydau allai fod yn berthnasol i’r gwahanol rywogaethau o famaliaid bach. Roedd yn rhaid iddynt wedyn benderfynu ar, a ffurfio cynllun a fyddai’n dangos sut gellid lleihau haint a nodi meysydd risg hefyd. Roedd yn rhaid iddynt ymchwilio i straen mewn mamal bach a sut gallech ddweud os oedd yn dioddef straen.

Yn ystod y sesiwn, fe wnaeth y dysgwyr hefyd gwblhau’r tasgau rhyngweithiol sydd wedi’u cynnwys o fewn yr adnodd.

Neilltuwyd amser i drafod a gwylio’r gwahanol glipiau fideo. Nid oedd yn rhaid gwylio’r holl glipiau fideo, a gellir eu lawrlwytho a’u rhoi yn Moodle i’r dysgwyr eu gwylio unrhyw bryd.

Gellid bod wedi cynnwys datrys problemau pan oedd yn rhaid i’r dysgwyr ddylunio pos i’r anifail ryngweithio ag ef. Bydd hyn yn cael ei wneud mewn sesiwn arall.

Effaith a Chanlyniad

Cafodd y fideos eu croesawu’n dda ac fe wnaethant fwynhau eu gwylio. Cwblhawyd y tasgau rhyngweithiol yn dda a defnyddiwyd y trafodaethau yn dystiolaeth ar gyfer  Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru. Defnyddiwyd y fideos wedyn yn Moodle i atgyfnerthu’r dysgu tra oeddent yn yr ystafell ddosbarth.

Adnoddau Eraill

Hoffi’r fideos.

Gwersi a Ddysgwyd

Mae llawer i’w wneud mewn un sesiwn, a gallai fod yn fuddiol gwneud hyn mewn dwy sesiwn os yw amser yn brin. Mae angen gwybodaeth am feini prawf Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru neu mae angen i’r tiwtor roi gwybod i diwtor Sgiliau Hanfodol Cymru er mwyn iddo/iddi allu dod i’r sesiwn i gael tystiolaeth o’r drafodaeth.

Mae cyfle hefyd i roi tystiolaeth o elfen gyflwyno Cyfathrebu os cyflwynir yr ymchwil i’r dosbarth. Eto, byddai angen gwybodaeth am y meini prawf neu fewnbwn gan diwtor Sgiliau Hanfodol Cymru ar gyfer hyn.