#
Arfer da > Darganfod adnoddau > “Alcohol – Dwywaith yr Helynt?””

“Alcohol – Dwywaith yr Helynt?”

Prif Ffocysau: Dysgu wedi’i Bersonoli, Arfer myfyriol, DMaAGD,
Ffocysau Pellach: Sgiliau Sylfaenol, Cynhwysol,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Nod y wers yma ar gyfer Blwyddyn 8 oedd bod yn ymwybodol o ganlyniadau a pheryglon defnyddio neu gamddefnyddio alcohol.

Hon oedd y wers agoriadol a roddwyd gan Heddwas Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan, Emma Mudie, ac mae cynllun llawn o’r wers ar gael ar safle SchoolBeat.org ynghyd â gweithgareddau dilynol i’w cwblhau gan yr athrawon.  

Mae’r rhain wedi’u crynhoi yn nogfen AlcoholDwywaith yr Helynt_ArweiniadAddysgu.doc (AlcoholDoubleTrouble_TeachingGuidance.doc) ac mae cynlluniau gwersi llawn ar gael ar safle SchoolBeat.

Dangoswyd geiriau allweddol yn ymwneud ag alcohol yn nhu blaen y dosbarth. Dilynodd y wers y fformat canlynol:

  • Arferion diogel ac anniogel wrth yfed alcohol

Maen grwpiau bach, rhoddwyd setiau o gardiau i’r disgyblion eu trefnu yn arferion ‘diogel’/’anniogel’ a set o ddatganiadau i’w trefnu yn ‘cytuno’/’anghytuno’ mewn perthynas ag yfed alcohol.  Wedyn, trafodwyd dewisiadau fel dosbarth cyfan. (Enghreifftiau: yfed ar stumog wag, gadael diod heb neb i ofalu amdani, mynd adref gyda ffrindiau, yfed diod ysgafn rhwng diodydd meddwol.)

  • Agweddau disgyblion tuag at alcohol

A yw partïon dim ond yn dda os oes alcohol?  A yw’r rhan fwyaf o blant yn eu harddegau yn gor-yfed? ac ati.

  • Geirfa a ddefnyddir wrth ddisgrifio rhywun dan ddylanwad alcohol

Enghreifftiau – ‘chwil’, ‘yn feddw gaib’ (‘wrecked’, ‘smashed’), ac ati. Pa luniau fyddai’n dod i’r meddwl yn sgil y lluniau hyn pe baem yn sôn am gar / ty, ac atiŷ Pam y byddem ni’n defnyddio ansoddeiriau mor ddinistriol amdanom ni?

  • Ffeithiau am alcohol

E.e.  Enw cemegol am alcohol, beth mae’n ei wneud i’r ymennydd, sut mae’n gwneud i chi ymddwyn / ymateb (Gwyllt/Balch/Trist)

  • Rhesymau mae pobl yn yfed alcohol
  • Effeithiau yfed alcohol

Sleidiau a fideos  (e.e. pobl yn cysgu ar linell reilffordd, damweiniau car, clefyd yr iau/afu, pobl yn chwydu, ac ati)

  • Beth yw uned o alcohol?

Gofynnwyd i’r disgyblion drefnu set o luniau yn dangos dognau o wahanol ddiodydd meddwol i’r un a fydd, ym marn y disgyblion, yn cael y dylanwad mwyaf pe baent yn ei hyfed i’r ddiod a fydd yn cael y dylanwad lleiaf. Daeth disgyblion i du blaen y dosbarth a dal cerdyn yr un. Dywedodd gweddill y dosbarth wrthynt sut i sefyll. Mewn gwirionedd, dangosodd bob llun 1 uned o alcohol yn unig. Dangosodd yr ymarfer fod amgyffrediad fod rhai diodydd yn fwy meddwol nag eraill, ond 1 uned yw 1 uned, waeth beth yw ei ffurf ac nid yw uned o ddiod alcopop yn llai cryf nag uned o fodca. Wedyn, cafodd y disgyblion wybod am gyfyngiadau diogel ar gyfer dynion a merched.

  • Alcohol a throsedd

Ystadegau’n ymwneud ag alcohol a throsedd

  • Hanesion personol

Fideos o hanesion am drasiedïau dynol yn ymwneud â chamddefnyddio alcohol e.e. marwolaeth mab.

Effaith a Chanlyniad

Mae’r wers hon wedi’i chysylltu’n glir â Fframwaith ABCh 2008.

Aeth i’r afael â phob arddull dysgu –gweledol, clywedol a chinesthetig – ac roedd yn canolbwyntio’n benodol ar sgiliau meddwl a chyfathrebu. Fe wnaeth y gweithgaredd cyntaf wirioneddol ennyn diddordeb y disgyblion mewn ffordd gadarnhaol ac fe wnaethant barhau i gymryd rhan trwy gydol y wers. Fe wnaeth defnyddio clipiau fideo a lluniau yn dangos eu cyfoedion a’u rhieni yn cael problemau â chamddefnyddio alcohol gael effaith emosiynol ar y disgyblion ac roedd yn amlwg eu bod wedi uniaethu â nhw. Cafodd hyn argraff gref a chlywyd y disgyblion yn trafod y fideos wrth i’r wers orffen ac wrth iddynt adael yr ystafell. Fe wnaeth y wers annog y disgyblion i fyfyrio ar eu hymddygiad yfed eu hunain ac ymddygiad yfed pobl eraill. Rhoddodd gyfle i’r disgyblion gyfleu eu barn a’u safbwyntiau eu hunain yn hyderus a myfyrio ar farn pobl eraill mewn perthynas â datganiadau, lluniau, ffeithiau a chlipiau fideo. Roedd fformat y wers, sef cymysgedd o arddulliau addysgu a dysgu yn gynhwysol ac roedd cymhelliant y disgyblion yn amlwg yn uchel. Fe wnaeth y wers herio amgyffrediad a chyflwyno ffeithiau am alcohol nad oedd y disgyblion efallai wedi’u hystyried yn y gorffennol. Erbyn diwedd y wers, roedd y disgyblion wedi cael gwybodaeth am ddefnydd o alcohol yn eu cymuned a thu hwnt. Dangoswyd iddynt sut i wneud penderfyniadau a dewisiadau yn effeithiol a sut i fod yn ddisgybledig a chymryd cyfrifoldeb am weithredoedd a phenderfyniadau.

Adborth gan y Dysgwr

Roedd y disgyblion am barhau i drafod yr adnoddau gweledol y tu allan i’w hamser neilltuedig.

Adnoddau Eraill

Cyflwyniad i uned ar alcohol ar gyfer CA4 oedd y wers hon. Mae cynlluniau gwersi dilynol pellach ar gael yn www.SchoolBeat.org ynghyd ag ystod o adnoddau y gellir eu hargraffu.

Mae dolenni cyswllt i ystod o adnoddau sy’n gysylltiedig ag alcohol ar safle NGfL Cymru a all gefnogi’r wers hon wedi’u rhestru isod.

Gwersi a Ddysgwyd

Er i’r wers hon gael ei defnyddio gyda dosbarth Blwyddyn 10, gellid defnyddio fformat y wers lawn cystal ar gyfer disgyblion llawer iau neu hyn. Roedd y ffocws ar sgiliau meddwl ac er nad yw’r cynnwys efallai’n briodol, gellid defnyddio’r technegau addysgu a ddefnyddir, h.y. trafodaeth grwp bach, trafodaeth dosbarth cyfan, gweithgareddau trefnu, defnyddio clipiau fideo, gweithgareddau trefnu, ar gyfer pynciau eraill.