
Oes y Tywysogion
Ffocysau Pellach: Sgiliau Llythrennedd,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Addasiad o adnodd sydd ar wefan GCaD Cymru yw hwn sy’n ychwanegu mwy o weithgareddau meddwl ac yn ehangu’r adnodd ar draws y cwricwlwm, gan ei wneud yn ddull mwy thematig o fynd i’r afael â’r testun.
Oes y Tywysogion oedd y testun – ychwanegiad newydd at Gwricwlwm Hanes Cyfnod Allweddol 2, sydd ag ychydig o adnoddau ar gael i athrawon hyd yn hyn. Mae’r gyfres o ddelweddau’n adeiladu i mewn i fframwaith rhesymegol y gellir pori ynddo, i helpu datblygu sgiliau ar draws y cwricwlwm yn ogystal ag ymateb gofynion y fframwaith sgiliau.
Effaith a Chanlyniad
- Mae’r gweithgareddau hyn yn annog disgyblion i weithio mewn grwpiau i ofyn cwestiynau a fydd yn eu helpu i gyflawni’r tasgau.
- Mae thema Hanes Cymru yn un na roddwyd sylw mynych iddi – mae hwn yn rhoi’r cyfle i ddysgu am y bobl a’r digwyddiadau a luniodd y Gymru fodern heddiw.
Mae’r cyfleoedd mynych i siarad a gwrando drwy weithio fel rhan o grwp neu ddefnyddio partneriaid siarad yn golygu bod sgiliau llafaredd disgyblion wedi gwella.
Gwersi a Ddysgwyd
Defnyddiais hwn ar gyfer fy nosbarth Blwyddyn 3 / 4. Roeddwn yn hoffi’r ffaith nad oedd yr holl adnoddau yn adnoddau hanes yn unig ond fy mod hefyd yn gallu defnyddio’r gweithgareddau o fewn fy ngwers gelf ac ati.