#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Asidau ac alcalïau

Asidau ac alcalïau

Prif Ffocysau: Cyflawniad Bechgyn,
Ffocysau Pellach: Dysgu wedi’i Bersonoli, Sgiliau Llythrennedd, Cwricwlwm Cymreig , DMaAGD,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Adnodd rhyngweithiol dwyieithog ar gyfer blwyddyn 10 sydd yn gymorth wrth adolygu cryfderau asidau ac alcalïau.

Yna, defnyddiodd y disgybion Photo Story i greu podlediadau am y pwnc er mwyn helpu’i gilydd i adolygu ar gyfer eu harholiadau. Llwythwyd eu podlediadau ar ein gwefan Scienceeatcroesy, fel y gallent eu defnyddio gartref a gyda'u rhieni hefyd.

Effaith a Chanlyniad

  • Fe wnaeth y disgyblion fwynhau’r gweithgaredd gan ddeall y gwahaniaethau rhwng Asidau ac Alcalïau.
  • Roedd y gweithgaredd yn gyfrwng i ddal sylw’r bechgyn  yn enwedig, gan nad oedd angen iddynt ysgrifennu llawer, ond ble roedd modd iddynt gyfrannu’n llafar.
  • Gwelwyd cynnydd yn sgiliau cyfathrebu'r dysgwyr wrth iddynt allu adolygu eu sylwadau ar bob ffrâm o’u sioe sleidiau Photo Story

Adborth gan y Dysgwr

Roeddan ni wrth ein bodd yn gwneud y podlediadau gan ein bod ni’n gallu recordio ein lleisiau, ac roedd y profiad yn un hwyliog!

“Roedd defnyddio Photo Story yn hawdd ac yn hwyl. Mi wnes i ddeall sut i’w ddefnyddio yn syth bin.

Gobeithio cawn ni gyfle i ddefnyddio’r adnoddau hyn eto gan ei fod yn rhoi cyfle i mi gymryd mwy o ran yn y wers a mwynhau fy hun yn fwy”.

Adnoddau Eraill

Photo Story, gliniaduron a chlustffonau

Gwersi a Ddysgwyd

Fe wnes i fwynhau’r gweithgaredd yn fawr. Roeddwn i ychydig yn bryderus na fyddai rhai disgyblion yn ymroi i’r dasg ond roedd pob un ohonynt i’w weld yn cymryd diddordeb gan weithio’n dda.  Mae’r dechnoleg a ddefnyddiais( Photo Story) yn sỳm iawn ac roedd hynny’n help o ran codi fy hyder i ymchwilio i declynnau eraill y gellid eu defnyddio yn yr un modd.