Adnoddau Addysgu > CA4 > Hamdden a Thwristiaeth > Sgiliau Meddwl mewn Teithio a Thwristiaeth - Uned 3
Sgiliau Meddwl mewn Teithio a Thwristiaeth - Uned 3
Canolfan Hamdden, Dan-yr-Ogof, Sgïo, Gweithio mewn Parciau Cenedlaethol

Mae’r deunyddiau hyn wedi cael eu cynllunio i ategu agenda APADGOS ar gyfer datblygu sgiliau meddwl ac asesu ar gyfer dysgu ar gyfer dysgwyr sy’n dilyn cyrsiau teithio a thwristiaeth, gan gynnwys:

  • TGAU mewn Hamdden a Thwristiaeth
  • OCR Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth
  • Teithio a Thwristiaeth Cyntaf BTEC
  • UG mewn Teithio a Thwristiaeth

Mae’r deunyddiau hyn wedi cael eu hisrannu yn dair Uned, a phob un yn cynnwys pum pwnc:

Uned 3 – Gweithrediad sefydliadau hamdden a thwristiaeth a chyflogaeth

  • Dynamic Rock
  • ‘Canolfan Hamdden’
  • Dan-yr-Ogof
  • Sgïo
  • Gweithio mewn Parciau Cenedlaethol

Mae datblygu meddwl yn galluogi dysgwyr i ennill dealltwriaeth ddyfnach o bynciau, i feddwl yn hyblyg a gwneud dyfarniadau a phenderfyniadau rhesymedig.

Mae pob un o’r pynciau yn cynnwys cyfres o weithgareddau sgiliau meddwl, wedi’u hategu gan wybodaeth gryno am y pwnc.

Awgrymir bod y gweithgareddau’n cael eu cyflawni yn gyntaf cyn i ddysgwyr gael y wybodaeth ategol.

Mae’r gweithgareddau wedi cael eu cynllunio i alluogi dysgwyr i feddwl am y pwnc. Nid yw o bwys os ydyn nhw’n gwneud camgymeriadau neu’n gwneud pethau’n anghywir!
Gofynion meddalwedd