Boddi Cwm Tryweryn
Cyfres o wersi sy’n datblygu sgiliau llafar, darllen ac ysgrifennu disgyblion Cyfnod Allweddol 3, ond sydd hefyd yn rhoi’r cyfle iddynt ddatblygu eu hymwybyddiaeth o hanes a thrychineb pentref Capel Celyn. Mae’r gwersi’n rhoi cyfle i’r disgyblion gamu’n ôl i’r cyfnod gan ddychmygu teimladau’r trigolion a’u brwydr i achub y cwm. Ceir cyfleoedd i drafod a mynegi barn yn ogystal ag ysgrifennu llythyr ar ran Pwyllgor Amddiffyn Capel Celyn a dyddiadur trigolion y cwm.
Software requirements
Share with...
